Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

fetjjflìíMt RHYDDID. RHAN I. Y mae sain hyfryd iawn yn y gair rhyddid. Y mae ei ystyr yn peri i'r gair fod yn swynol. Cyfododd cenhedloedd ar unwaith o dan ei faner, a chyflawnwyd gorchestion a erys byth ar ddalenau hanesiaeth. Y mae holl anian am ei feddu,—y gwynt, yr aderyn, y pysgotìyn, yr asen wyllt, ydynt oll yn cydocheneidio am dano. Rhed cariad tuag ato drwy holl naturiaeth. Gwell gan yr aderyn bach ei frigau llwm gyda rhyddid, na gwefrau aur gyda chaethiwed. Un o brif elfenau dedwyddwch pobcreadur ydyw. • Rhyddhawr oedd, ac ydyw, Gwaredwr y byd. Daeth i'r byd i gyhoeddi rhyddid. Hyn oedd ei neges—dyma oedd ei genhadaeth. Cyhoeddodd ryddid i'r Iuddewon oddiwrth gaethiwed seremoniau—rhyddid i'r Phariseaid oddiwrth gaethiwed hunan-gyfíawnder—a rhyddid i bechadur oddiwrth gaethiwed ei lygredigaeth. Y mae pechod yn gaethiwed, a'r pechadur yn gaethwas. Bhwymwr yw diafol: dattodwr yw Crist. Rhyddid ydyw sefyllfa y saint yma, a rhyddid fydd eu sefyllfa byth. Cyhoeddiad o ryddid—cynnygiad o ym- wared, ydyw yr efengyl. Dwyn i "ryddid gogoniant plantDuw" ydyw ei hamcan. Rhyddhau carcharorion ydyw ei heffaith. Y maeyn dwyn y caffaeliad yn rhydd oddiar y cadarn. " Os y Mab a'ch rhyddha, rhyddion fyddwch yn wir." Perthyna rhydditl i ddyn yn naturiol fel creadur, a'r rhyddid hwn sydd yn ei gyfansoddi yn fôd moesol a chyfrifol. Wrthhyn y deallir rhyddid yr ewyllys, neu ryddid i ddewis y pethau a ymddengys i'n deall yn fwyaf dewisol. Gwir fod dyn yn rhwym i ddewis y peth a ymddengys iddo yn fwyaf dymunol, ond nid oes gorfodaeth arno y tuallan iddo ei hun. Y mae y rhyddid hwn yn hanfodol i'w gyfrifoldeb. Ni allai fod yn greadur cyfrifol pe na byddai yn rhydd-ddewisydd. Pe y'i gorfodid gan ryw awdurdod y tuallan iddo ei hun, peiriant fyddai, ac nid bôd o gyfrifoldeb. Perthyna i ddyn ddeall ac ewyllys, ac nid yr un deddfau a wna y tro i fôd yn perchen meddwl ag a wna y tro i fôd amddifad o feddwi. Ni ellir darbwyllo y gwynt, a'r gwlaw, a'r anifail; ac ni ellir ond darbwyllo dyn. Os cymerir rhyw ffordd ato yn amgen na pherswadiad, dinystria ei ryddid a'i gyfrifoldeb ar unwaith. Pei-swadio y mae Satan. Hudoliaeth ydyw moddion gweinyddiad ei lywodr- aeth ar feddyliau. Trwy hyn y mae " duw y byd hwn yn dallu meddyliau y rhai digred," ac yn eu hattal i dderbyn goleuni gwirionedd "efengyl gogoniant Duw." Perswadio hefyd y mae Crist. Cymhelliad ydyw moddion gweinyddiad ei lywodraeth ar feddyliau dynion, a thrwy gymhelliad y mae yn ennill ac yn cadw deiliaid iddo ei hun. Y mae ei weinidog- ion yn "gwybodofn yr Arglwydd," ac amhyny yn "perswadio dynion." Y mae rìryddid yn rhan o ddelw Duw. Cymdeithas rydd yw cymdeithas Tri yn Un— cymdeithas o gydewyllysiad a chydweithrediad. Ni byddai y byd hwn yn fydmoesol heb greaduriaid rhydd—rhyddi ddeall ac i ddewis. Heb hyn, ni byddai yn amgen napheir- iant anferth heb foesolrwydd yn perthyn iddo, na chyfrifoldeb yn gorphwys arno. Ond nid y rhyddid a berthyn i ddyn fel creadur ydyw y mater a gymerir yn bresenol o dan ystyriaeth; nid y rhyddid hanfodol i greadur rhesymol yn ei berthynas â'i Grëwr sydii yn benaf mewn golwg: ond yn hytrach y rhyddid aberthyn yn gyfiawn i ddyn fel aelod cymdeithas—y rhyddid y mae ganddo hawl iddo fel deiliad gwladol—y rhyddid hwnw nar. gellir ei amddifadu o hono hcb ddarostwng a sarhau ei ddynoliaeth. Y mae rhyddid personol, sef rhyddid i ddyn weithredu yn ol ei feddwl ei liun yn ei bethau personol. Rhyddid i fwyta y bwyd a fyno—i wisgo y dillad a fyno—i weithio y grcfft a fyno—rhyddid i blanu ac adeiladu yn ol ei feddwl ei hun tra heb fod yn euog o drais ar eraill—a rhyddid i briodi neu beidio priodi, heb un awdurdod gyfreithiol i'w attal na'i orfodi. Dyledus ydyw ar bob dyn i gofio mai aelod cymdeithas ydyw, ac fel y cyfryw bod ei ryddid personol i ymgadw o fewn cylch cyfraith; hyny ydyw, o fewn cylch trefn y gym- Mawrth, 1854, h