Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: à'R HWN YR UNWYD "YR ANNIBYHWP." ......-■■■■ »■•»» .......... |r Ittbbrtooti a Ctolafc gr ^bbftoib. (GAN Y PARCH. L. PROBERT, PORTHMADOG.) III. GWASGARIAD Y GESEDL. Mae dirywiad cenedl yn gystal a'i chyfodiad yn llawn o wersi buddiol i genedloedd eraill. Cafodd llawer gwlad gyfarwyddyd pa fodd i osod ei hun ar seiliau cedyrn wrth fyfyrio cynydd a chyfodiad yr Ymerodr- aeth Eufeinig, a rhybuddion hefyd pa beryglon i'w gochelyd wrth ddarllenei"Becline & Fall" Ni ddylai cwymp cenedl, mwy na'i chyf- odiad, gael myned heibio yn ddisylw gan genedloedd eraill. Mae y genedl Iuddewig, a ddyrchafwyd'i safle ogoneddus wrth ddilyn ffyrdd rhinwedd, yn ei dirywiad a'i gwasgariad, yn gwasanaethu fel goleudy i ddangos y perygl o beidio glynu wrth yr Arglwydd. Darllenir yn ei hanes mewn llythyrenau breision, "ddaioni a thoster Duw." Gellir yn ddiogel olrhain dechreuad ei dirywiad yn ol mor bell a'r caethiwed Babilonaidd. Goruwchreolodd Duw yr amgylchiad mawr hwnw, fel y cynyrchodd doraeth o ífrwythau daionus yn gystal a rhai chwerwon. Yr adeg hòno, peidiodd y genedl Iuddewig a bod yn ganolbwynt gallu a dylanwad i'r byd; a cheir nerth gwladol yn dechreu symud tua'r gorllewin yn nghyfodiad Groeg a Ehufain. Nid oes sicrwydd i ba le yr aeth "y deg llwyth;" ond diamheu iddynt fyned a'r ysgrythyrau ganddynt, fel rhyngddynt hwy a'r gweddill a arosasant yn Babilon, y rhai a gaent feusydd i fudo iddynt fel yr oedd Groeg a Ehufain yn cyfodi—ceid Iuddewon cenedlig yn mhob dinas o'r byd braidd yn adeg ymddangosiad y Mess'ia, yn dysgwyl am "ddymuniant yr holl genedl- oedd." Diamheu mai yr angen a greodd y caethiwed am leoedd i addoli, gan eu bod yn mheìl o Jerusalem, achlysurodd sefydliad y synagogau gan yr luddewon, y rhai a ddaethant, ar ol hyny, yn gynllun- iau o'r Eglwysi Cristionogol ddylent fod yn brif fagwrfa rhyddid, anni- byniaeth, a hunanlywodraeth yn mysg dynion. Cafodd y byd yn gyffredinol fanteision anmhrisiadwy o gaethiwed y genedl. Fel y ff'rydiau a redant o'r llyn i ffrwythloni y meusydd yn mhob cyfeiriad, felly y llifodd dylanwadau o'r caethiwed Babilonaidd a lesolant y byd hyd derfynau amser', a chafodd y genedl ei hun ran helaeth o'r lles a ddeilliodd o'i hadfyd. Cyn ei chystuddio, tueddai i edrych ar addol- iad Duw yn un lleol, cenedlaethol, a materol; ond yn ei halltudiaeth, dysgodd fod Duw yn mhob man, a'i wasanaeth i fod yn un personol ac Tachwedd, 1880. x