Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsaedpdd "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cvf. Newydd—88.] EBRILL, 1910. [Hen. Gyf.—584. Y DDAU FYNYDD—SINAI A SEION. GAN Y PARCH. OWEN EVANS, D.D. " Canys ni ddaethoch chwi at y mynydd teimladwy sydd yn llosgi gan dìn, a chwmwl, a thywyllwch, athymmestl, &c. * * * Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Seion, ac i ddinas y Duw byw, y Jerusalem nefol, ac at fyrddiwn o angelion," &c. Hebreaid xii. 18—24. |AE awdwr ysbrydoledig yr epistol gwerthfawr hwn, pjyy bynag ydoedd, yn taer gymhell yr Hebreaid i lynu yn gadarn a dianwadal wrth yr efengyl, ac yn eu rhybuddio yn ddifrifol i fod ar eu gocheliad rhag cymeryd eu denu na'u dychrynu, ar unrhyw gyfrif, i ollwng eu gafael o Gristion- ogaeth, a "thynu yn ol" at Iuddewaeth. Dengys iddynt y buasai hyny yn annoethineb àc yn ynfydrwydd dirfawr ynddynt, am fod y breintiau yr oeddynt hwy wedi dyfod i feddiant o honynt trwy yr efengyl yn rhagori cymaint at freintiau eu tadau o dan yr oruchwyliaeth Iuddewig. A dyna y mater sydd yn yr adnodau sydd genym dan sylw—Rhagor- iaeth goruchwyliaeth yr efengyl ar oruchwyliaeth y ddeddf. Mae y geiriau yn arwyddo— I. Fod goruchwyliaeth yr efengyl yn rhagori ar oruchwyl- iaeth y ddeddf, am ei bod hi yn fwy ysbrydol: "Canys ni ddaeth- och chwi at y mynydd teimladwy—Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Seion," &c. Ym mhen pum diwrnod a deugain wedi cychwyn o'r Aifft, fe ddaeth plant Israel at odreu mynydd Sinai, yn Arabia. Yr oedd hwnw yn fynydd uchel, serth, a chreigiog, tua'r un uchder â phe dodid Cader Idris a'r Wyddfa y naill ar y llall. Gelwir mynydd Sinai yma yn "fynydd teimladwy," am ei fod yn fynydd daearol a materol—yn fynydd y gellid ei weled â'r Uygaid, ei deimlo â'r dwylaw. a'i ddringo â'r traed. Àc fel y cyhoeddwyd y gyfraith ac y sefydlwyd yr oruchwyliaeth Foesenaidd ar "fynydd teimladwy," fel hyn, felly hefyd yn gyson â hyny, goruchwyl- iaeth ddaearol a materol i fesur mawr oedd yr oníchwyíiaeth hono a sefydlwyd ar y mynydd Jiwnw. Ond am y mynydd y mae duwiolion vn