Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsôedpcld "AV hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyf. Newydd—93.J MEDI, 1910. [Hen Gyf.—589. CYNHADLEDD GENHADOL Y BYD. GAN Y PARCH. H. M. HUGHES, B.A., CAERDYDD. I. AE'N amheus genyf a oes rhywbeth wedi digwydd yn hanes y Grefydd Gristionogol er y Diwygiad Protestan- aidd, pwysicach a llawnach o ystyr a phosibliadau na Chynhadledd Genhadol y Byd, yr hon a gynhaliwyd yn Edinburgh o'r 14eg hyd y 24ain o fis Mehefin diweddaf. Fel cÿnulliad i drafod y cwestiwn cenhadol yneiwahanol agweddau ni bu dim tebyg iddi yn hanes yr Eglwys erioed, ac fel arwydd o alluoedd ac elfenau ysbrydol sydd yn gweithio o'r golwg ym mhob canghen o'r Eglwys Brotestanaidd ' drwy'r ddaear fawr i gyd,' mae yn amhosibl cysylltu gormod o bwysigrwydd â hi. Yr oedd yn fawr ynddi ei hun, ond yn annrhaethol fwy yn ei harwyddocâd a'i phosibhadau. Cych- wynodd y syniad am dani amrj-w flynyddoedd yn ol, yn meddwl ychydig o'r arweinwyr cenhadol yn Mhrydain ; aeth yr awgrym dros y Werydd cyn bo hir ; ac addfedodd o dipyn i beth nes cymeryd y fîurf odidog a wisgai yng nghyfarfodydd bythgofiadwy Edinburgh. Wrth weled y syniad yn tyfu mor fawr a rhyfeddol dywedir fod rhai hyd yn oed o'i freuddwydwyr cyntaf wedi cael peth braw, ac yn ofni y byddai i'w faint a'i nerth bron yn farwol iddo—ei fod yn myned, dan eu dwy- law, yn beth mor odidog a mawreddog fel y byddai yn rhy dda i gael ei sylweddoli. Yr oedd cynydd a thegwch eu delfryd yn bygwth ei ladd. Pan feddyliwyd gyntaf am dano rhywbeth cyfyngedig i swydd- ogion a phwyllgorau cymdeithasau cenhadol yn unig ydoedd, ond wedi iddo fyned dros y dŵr i'r Amerig, ac i'r Americaniaid uno yn y mudiad," gwelwyd yn bur fuan nad oedd aros na gorphwys i fod heb gymeryd i mewn gynrychiolaeth helaeth o bedwar ban y byd. Ond Uiosogai'r an- hawsderau gyda chynydd y syniad. Sut y gellid cyflunio y fath gyn- hadledd ? Lle ceid yr arian ? Pwy oedd ddigonol fel ysgrifenydd a threfnydd i'r íath fudiad ? Sut y gallasai pwyllgor i'r fath gynllun byd-lydan gario ei waith ymlaen ? Pa fan geid ar wyneb y ddaear fuasai yn barod i estyn lletygarwch a chroesaw i gynhadledd mor an- ferth am dymhor digon maith iddi wneud ei gwaith yn effeithiol ? Al