Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD, Rhif. 259. GORPHENAF, 1843. Cyf. XXII. COFIANT GWEN THOMAS,* BRYNLLINBACH, TRAWSFYNYDD, YR HON A FU FARW \rN 89 MLWYDD OED. " Coffadwriaeth y cyfiawn sydd feudi^edig-."—Sol. Bu y fam hon yn Israel farw, a chasglwyd hi at ei phobl fel tywysen addfed, ar yr 20fed o Ebrilí, 1843, ar ol dyoddef cystudd hirfaith yn amyneddgar a siriol. Dechreuodd hi a'i hygar briod, John Hughes, wrando yr efengyl yn Hen Gapel Llanuwchllyn, pryd yr ydoedd y Parch. Abraham Tibbot yn weini- dog yno. Aent ar y Sabbathau dros y mynydd o Frynllin i Lanuwchllyn i wrando yr efengyl, gan nad oedd cyfleusdra yn nes iddynt y pryd hwnw. Gocheled dynion esgeulus o foddion gras y dyddiau yma, rhag y byddymddygiad y dynion hyn, a'u cyffelyb, yn cyfodi yn eu herbyn i'w condemnio yn y farn, fel "gwýr Ninife," a "brenhines y dehau." Meddyliodd J. Hughes a'i wraig am gael eu derbyn yn gy flawn aelodau yn Llanuwchllyn; ond penderfynwyd adeiladu Capel Penystryd, a pher- swadiwyd hwy i aros nes y gor- phenid y Capel newydd; ac felly y bu. Derbyniwyd hwy i gymun- deb y Sabbath cyntaf y pregethwyd yr efengyl yn y Capel uchod, pryd y ffurfiwyd yr Eglwys Annibynol a ymgyferfydd yno hyd heddyw. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1789. Parhaodd y ddeuddyn hyn yn ffyddlawn ac ymdrechgar iawn ar hyd eu hoes grefyddol, ac an- fynych iawn y gwelid eu lle yn wag pa fòddion bynag fyddai yn y Capel; a byddent yno yn gyffredin gyda'r rhai blaenaf, er fod iddynt o dair i bedair milldir o ffordd uchel a drwg iawn. Siampl deilwng o efelychiad. Buont yn llawer o rym, cymhorth, a chysur i'w gilydd, yn enwedig mewn pethau crefyddol, nes y daeth y cenhadwrdideimladhwnw, angeu, ì'w hysgaru dros amser oddiwrth eu giìydd; oblegid yn y flwyddyn 1820, bu farw John Hughes, yn 73ain mlwydd oed, mewn ffydd yn, ac ymorphwysiad ar, yr Ar- glwydd Iesu Grist, ei Waredwr mawr, a o;adawrodd wraio; a saith o blant (sef dau o feibion a phump o ferched) i alaru ar ei ol, ac i ofal "Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon." Er colli priod serchog a ffyddlawn, etto dangosodd Gwen Thomas yn amlwg ei bod wedi }^s- tyried yn ddyledswydd arni yn bersonol fyw yn grefyddol, ac nad oedd yn un o grefyddw3rr y cyfleus- derau a'r amgylchiadau. Cafoddy fraint fawr o ymddwyn yn y fath fodd fel na bu yn ofid i neb o'i chyfeillion crefyddol. Yr oedd o ran ei hysbryd a'i hymddygiadau teilwng yn argyhoeddi y rhai a'i hadwaenai fod ganddi grefydd o'r iawn ryw. Nid oes ammheuaeth na wedd'iodd y wraig rinweddol hon lawer drosti ei hun a'i theulu; a chafodd y fraint o weled pedwar o'i phlant yn arddel Iesu Grist yn gy- hoeddus. Diammau y dysgAvylia glywed yn y nef y newydd llawen fod y lleill o honynt yn edifarhau ac yn dychwelyd at Fugail ac Esgob eu heneidiau. Penystryd. E. Davies. » Gel«vid !.i nríh ei henw morwynol, sc old ar eaw t-i gwr. 25