Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Rhif. 188] GORPHENAF, 1837. [Cyf. XVI. RHAGORFREINTIAU YR HEN DESTAMENT, NEU ORUCHWYLIAETH Y CYSGODAU. GAN nad yw yr Hen Destament ddim amgen na'r cyfammod gras, fel yr oedd yn cael ei amlygu o flaen dyfodiad Crist yn y cnawd, y mae yn rhaid fod yr holl bethau daionus sydd wedi eu haddaw dan y cyfam- mod gras (fel y cyfryw)yn gynnwys- edig yn yr Hen Destament. Pethau daionus y cyfammod gras ydyw yr hyn sydd yn yr iachawdwriaeth dra- gywyddol ei hunan ; a pha beth bynag sydd mewn cysylìtiad angen- rheidiol ag iachawdwriaeth, megys ailenedigaeth, galwad eífeithiol trwy y gaira'r Ysbryd, ífydd, cyfiawnhad, heddwch ysbrydol, mabwysiad, a'r pethau ereill sydd yn anwahanol yn nglŷn â hwynt. Er fod y rhan fwyaf o'r pethau hyn yn cael eu profi mewn modd helaethach dan y Testament Newydd, etto yr oeddynt oll, o ran sylwedd y pethau, yn brofedig dan yr Hen Destament hefyd. Yn y lle hwn traethwn yn unig am y rhagor- freintiau hyny syrdd briodol i'r Hen Destament, yn fwyaf neillduol dan oruchwyüaeth Moses. Y rhai hyn ydyntbump:—1. Etholiad Israel i fod yn bobl briodol. 2. Etifeddiaeth gwlad Canaan. 3. Arddangosiad cyfrinachol o'r Mawrhydi Dwyfol a'i breswyliad. 4. Darluniad cysgodol o ddirgeledigaethau dwyfol, a'u sel- iad beunyddiol trwy y seremon'iau crefyddol. 5. Cofrestr barhaus, a bron ddidor, o broffwydi yn llefaru 25 ac yn ysgrifenu trwy ysbrydoliaeth Duw. Ond sylwn ar y pethau hyn yn y modd canlynol : 1. Yr oedd hyny yn rhagorfraint fawr yn ddiau, i Dduw ddewis cenedl Israel o flaen holl genedloedd y byd i gymundeb cyfammodol tra agos ag ef ei hun : i Israel gael ei alw yn fab cyntafanedig iddo, Exod. 11. 22. ac yn drysor priodol, fel y gallent hwythau ymorfoleddu ynddo yntau fel eu rhan. Canys pan gymmerodd Duw hwynt yn bobl iddo ei hun, efe a roddodd hawl iddynt ei alw ef yn Dduw iddynt hwy, a'i gael ef yn rhan dragywyddol iddynt, gan fod y ddau beth hyrn yn nglýn â'u gilydd, Deut. 26. 17, 18. Ier. 10. 16. Yr oedd ganddynt hawl yn mhellach i ddysgwyl am y Messiah o'u plith eu hunain, megys un o'u brodyr, Deut. 18. 15, 18. Er hyny nid oedd yr un o'r pethau hyn, na'r cwbl gyda'u gilydd, os golygir y cyfammod yn allanol, yn ddigonol iddynt er iach- awdwriaeth ; <£ canys nid Israel yw pawb a'r sydd o Israel; ac nid ydynt oblegyd eu bod yn had Abraham, i gydyn blant," Rhuf. 9. 6, 7. Lla- wer o honynt, er eu bod yn blant y deyrnas, a fwriwyd allan, Mat. 8.12. Yr oedd er hynyr yn etholiad yrr holl genedl i gyfammod (er nad oedd mewn perthynas i lawer o honynt ondun aüanol) ryw ddrych cysgodol o'r rhai a etholir i ras a gogoniant.