Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGÈDYDÖ. Rhif. 189 ] AWST, 1837. [Cyf. XVI. BUCHEDD EI DDIWEDDAR FAWRHYDI GWILYM IŸ. WíLLIAM HENRY, trydydd mab SiorlII. a aned yr 2tain o Awst 1765. Y mae harteswyr y dyddiau hyny yn crybwyll am dano yn fychan o'i oed, yn ddeallus nodedig, ac yn hoífus hynod yn ei ymddygiad a'i ymddyddanion : yr oedd efe hefyd o duedd a natur hyf a gwrólẁych, yr hyn ysgatfydd a barodd i'w Dad ei ddwyn i fyny i wasanaeth llynges- awl ei wlad. Pan yn dair ar ddeg ood cofrestrwyd y Tywysog ieuanc yn îs-swyddog ar fwrdd y Prince George, Uyngeslong o 98 cyflegr, tau ofal y Llyngesydd Digby. Myn- egodd y brenin yn beudant y gor. fyddai i'w fab ef eunill ei ífordd i ddyrchafiad yn yr un modd yn gy~ mh.ẅys a'r llencyn mwyaf digyfaill } n y llynges; ac yn ganlynol rhodd- wyd ef i gychwyn yn gydradd â'i íiydfechyn. Cafodd yn fuan gyfle i weled gwasanaeth. Hwyliodd llynges, tan lywyddiaeth Rodney, o Spithead yn Rhag. 1779, i'r hon y perthynai y Prince George; ac àr yr 8fed o'r mis canlyhcl ysglyfiodd nawddlynges Yspaenaidd, yn cyn- nwys un llong o 64 cyflegr (yr hon wed'yn a enwyd y Prince William o barch i'rTywysög) yri nghyda nifer fawr o löngau arfog o amrywiol faintioli. Wyth niwrnod wed'yn dygwyddodd y frwydr hygof gyda'r llynges Yspaenaidd dan lywyddiaeth John Juan de Lagara? yr hon a ddy- 29 benodd yn ỳsglyfiad neu lwyr ddin. ystr holldongau y gelyn, trwy'r hyh yr erthylodd y cydymgyrch a lun- iasai y Ffrancod a'r Yspaeniaid yn erbyn ein Tiriogaethau yn yr îndia Orllewinol. Pan ddygwyd y llyng- esydd Yspaenaidd ar fwrdd y Prince George yn garcharor, ac y dywed- wyd wrtho, mai Tywysog o waed brenhinol Lloegr oedd un o'r îs- swyddogion a welsai efe mor hoyw- brysur yn ei ddyledswydd trwy gydol y frwydr, efe a ddolefodd, li Wel, mor hawdd i Loegr fod yn frenine3 y môr, tra y mae mab y brenin fel hyn yn ei gwasanaeth !" Gwasanaethodd y Tywysog brou y cyfan o rclyw ei amser megys îs- swyddog yn yr India Orllewinol a chyfeiryd â môrgyfliniau NovaScotia a Chanada. Tra yn sefydledig ar y cyfiìniau hyny, y Tywysog, (gan ddewis bywiogrwydd herwlong yn hytrach nag aros yn segur yn ei unfan) ar ei ddymuniad ei hun a symudwyd i'r Warwich o 50 cyflegr, tan lywyddiaeth Arglwydd Keith; ac yr oedd efe yh gwasanaethu tan y swyddog hwnw pan ysglyfiwyd yr Aigle, herwlong Ffrengig anferth, y Sophie o 22 cyílegr, a'r gadlong, Terrier, gyfeiryd â morryd yr afon Delaware, ar ỳr lleg o Fedi 1782. Yna ymunödd y Tywysog ag Arg. Hood ; a thyoa'r pryd y daeth efé yn gydnabyddus ág Argl. Nelson?