Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Rhif. 192.] TACHWEDD, 183?. [Cyf. XVI. BYWGRAFFIAD OLIVER CROMWEL. 1 EBYGOL nad oes cymmaint o amryw- iaeth tybiau yn mhlith y Cymry uniaith am nnrhyw ddyn a fywioliaethodd yn Mhryd- ain Fawr, raewn unihyw oes, ag sydd gan- ddyntam wrthddrych y Bywgraffiad hwn. Gcsyd rhai efallan fel gormestcr, terfysgwr, hcretic, &c.&c.; sieryd ereill am dano gyda mwy o barch. Ond amcenir bod mor ddi- duedd ato yn yr hanes a ddechreuir yn awr aS y goddefa y gwirionedd. Oliver Cromwel, mab Robert Cromwel,* Yswain, o'i wraig Elisabeth, merch Syr Rd. Stuart, a anwyd yn mhlwyf St. Ioan, yn nhref Huntingdon,ar y 25ain o Ebrill 1599. Enwyd ef Oliver Cromwel yn ol enw ei ewythrbrawd ei dad, Syr OltTerCromwel. Dywedir fod Oiiver Cromwel, pan yn blentyn, yn aros yn nghartrefle ei daid Syr Henry Cromwel, ac i eppa [monìtey) ei gym- meryd ef ö'i gryd a'i gario ef i nen y tŷ, ac iddo yno chwareu amryw gastiau ei ryw- ojaeth ag ef; a'r teulu wedi cael eu mawr ddychrynu gan yr olygfa, a osodasant welyau a gwrthbanau, a defnyddiau es- mwythereill, oamgylch y tỳ, gan ddysgwyl bob mynyd weled Cromwel ieuanc yn cael ci ollwng bendramwnwgl o freichiau ei dadmaeth eppaaidd a dibroíìad; ond er eu mawr syndod oll daeth ag ef i lawr gyda'r un gofal ag yr acthai ag ef i fyny.f Dy- " Priododd AVilliams o swydd Forganwg (yr hv.n ocdd Gymro ac yn daid i O. Cromwel) chwaer iSyrThomas Cromwcl, wedi hyny Iarll Essex, a Phrifweündog Harri yr Wythfed; a chyfenwodd Williamsei blant yn ol cyfenw cu mam. t Pa un a ydoedd y dygwyddiad rhyfcddfawr «clîodynrhagddangosiad o'L ddcrdiafiadrhyfeddol trwy anturiaethau mawrion, neu nad oedd, gadewir ydarllenyddy tro hwn, í'el bobamscr, at ei ryddid ifarnudrosto ei hun. 41 gwyddodd i Siarl I. a Cromwel gyfarfod â'u gilydd pan oeddynt yn blant lled ieuainc yu nhŷ Syr O. Cromwel, ac nid hir y buont heb ymrafaelio â'u gilydd yn nghylch rhyw bethau plentynaidd, a'r canlyniad fu i Crom- wel daro Siarl yn ei drwyn nes oedd ei waed yn ífrydio i'r ddaear. (Adroddid yr hanes hon yn aml yn amser y rhyfel cartrefol.) Taerai 01iver Cromwel trwy ei oes iddo mewn gweledigaeth pan yn ieuanc weled cawr yn dyfod at ei wely, gan fynegi iddo y byddai ef cyn ei farw, y dyn mwyaf yn y deyrnas, &c. Cosbid ef yn Uym y tro cyntaf yr adroddodd yr hanes gan ei ysgolfeistr, yn ol taer ddymuniad ei dad, ond efe nis galwai ei eiriau yn ol er un gwr. Nid yw yn ymddangos i OIiver Cromwel wneyd yu dda, neu y goreu, o'i amser pan yn ieuanc, er i'w dad ei gostio mewn ysgol rammadegol yn Huntington atn flynyddau, acwedi hyny yn Nghaergrawnt am ryw gymmaint o amser. Ond meddylir yn gyífredin nad oedd ef yn enwog mewn dysgeidiaeth, oddi- eithr mewn arbwylleb. Dy wedir ei fod yn ymresymydd rhagorol. Yr oedd yn ei feddiant lyfrgell werthfawr oddewislyfran. Talai barch mawr hefyd trwy ei oes i Brif- ysgol Caergrawnt, yr hyn sydd yn brawf nad oedd ef yn gasàwr dysg. " Vn ei fyfyr- dodau," raeddai un, "yr oedd yn lìed anwastad: am rai wythnosau ymroddai i ddysgu yu rhagorol; trachefn treuüai gyn- nifer a hyny o íìsoedd mewn segurdod a diofalwch." Pan fu farw ei dad, galwodd ei fam ei' adref o'r Brifysgol; a gartref y bu efe am ychydig amser, yn bur aflywodraethus ac anmharchus o'i fam; ond cyn hir ymadaw-