Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. EBRILL, 1850 F Y M A M , HELYNTION BYDOL—YMRANIADAU EGLWYSIG—CREFYDD Y MYNYDDOEDD—BYWYD CREFYDDOL—MARWOLAETH—YR WYLNOS a'r ANGHLADD. Y DRYDEDD RAN. Ni wenodd y byd ar fy rhieni. Er dechreu yn dda, etto, drwy golledion anffodus ar anifeiliaid, a gorfod gwerthu eu heiddo ar syraudiad annysgwyliadwy o dyddyn, pan yr oedd prisiau uchel y rhyfel Ewropaidd wedi gostwng, ni flag- urasant fel y lawryf gwyrdd. Er mai " llaw y diwyd a gyfoethoga," etto, "nid yw y post aur yn tyfu wrth ddrws pawb." Trefnodd Rhagluniaeth iddynt fy wyd isel dros y chwe blynedd ar hugain diweddaf o einioes fy mam, mewn tyddyn bychan, ]le y porthwyd hwy â digonedd o fara, er na chawsant nemawr o ddant- eithion bywyd. Cawsant ran y cyffredin o lafurwyr a màn-amaethwyr Cymru. Ni buont heb y fuwch yn y beudy, yr ychydig ddefaid yn y Cae Porfa, na'r pistyll gloew grisialaidd o flaen y drws, drwy yr amser. Yn henaint a gwendid fy mam, dangoswyd iddi fawr garedig- rwydd a chydymdeimlad gan amryw gyfeillion a chymydogion. Hedd, ded- wyddwch, a llwyddiant iddynt hwy a'r eiddynt oll. Fel y crybwyllwyd yn barod, ymunodd fy mam â chrefydd pan yn ieuanc, ac ymlynodd wrthi hyd ei hen ddyddiau. Bu yn addurn ei hieuenctyd, ac yn goron ei phenllwydni. Yr oedd ei sel •Jros yr achos bob amser yn wresog. Ei barnau athrawiaethol oeddynt uchel Galfinaidd. Tebyg i'r syniadau hyn gael eu mabwysiadu ganddi yn amser yraraniad eglwysig a gymerodd le yn y Bala yn fuan ar ol iddi ymuno â'r eglwys yno. Nis gallaf lai nac ystyried rhwygiadau eglwysig yn felldithion cref- yddwyr. Crebachant eneidiau dynion fel na allant oddef dim, na theimlo dim, ond eu shibboleth gredoawl eu hunain. Llanwant y meddwl â rhagfarn, a thu- eddant braidd bob creadur bychan 5 gymeryd arno fod agoriadau pyrth paradwys yn ei law. Darllenir llyfr arfaeth mor llithrig a'r llyfr corn. Y mae dirgelion etholedigaeth ar benau y bysedd. Deallir cyfammod y prynedig- aeth yn well na thaflen pen-llanw y môr yn yr Almanac. Nid oes dim dirgelwch mewn prynedigaeth neillduol. Nid yw esbonio cyfiawnhad yn fwy anhawdd na phlethu gwden Hidiart. Mae parhad mewn gras yn athrawiaeth mor bawdd ei deall ag yw teimlo oerfel ar wyliau Nadolig. Nid oes lle i ddadl am danynt. Ynfyd yw y dyn a'u hammheuo. Nid yw yn iach yn y ffydd : mae y gwahan- glwyf arno. A'r un modd y mae gyda'r blaid wahanol. Mae eu hatbrawiaethau hwythau fel yr haul, a'r hau4 fel ei Greawdwr, ac am hyny yn berffaith ; a dyna ben ar y mater. Anhawdd i mi ofidio yn rhy ddwys, er mai ofer y w, i rwygiad eglwys Llanuwch- llyn niweidio ysbryd crefyddol fy mam. Trwy hyn treuliais flynyddoedd boreuaf fy mywyd yn swn brwydrau duwinydd- awl, ac yn cael ar ddeall fod bron holl weinidogion Gogledd Cymru wedi cyf- eiliorni yn ddirfawr. Enciliodd fy rhi- eni o gymundeb yr eglwys yn y Brithdir,