Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. RHAGFYR, 1850 COFIANT MES, SAEAH DAVIES, LOW H I L L, HVERPOOL. Mr. Gol.—Os byddwch gystal a rhoddi lle i'r ychydig gofion a ganlyn yn eich Cyhoeddiad defnyddiol, chwi a foddhewch, nid yr ysgrifenydd yn unig, ond lluaws o gyfeiìlion a pherthynasau yr ymadawedig; ac a delwch deyrnged o barch i goffadwriaeth gwraig rinweddol, a gwir ddefn- yddiol yn eglwys Dduw yn ei dydd. Ganwyd Sarah Jones yn Croesfaen, gerllaw Treffynnon, yn swydd Fflint, Hydref, 1803. Ychydig a ẃyr yr ys- grifenydd am ei rhieni, nac am y modd y dygwyd eu merch Sarah i fyny ; ond clywodd hi yn dywedyd fod argraffiadau dyfnion wedi cael eu gwneud ar ei rneddwl gan bethau crefyddol er pan oedd yn blentyn ; ac y byddai syniadau difrifol am hollbresenoldeb a hollwyb- odaeth Duw yn rhutbro i'w meddwl yn wyneb temtasiynau i droseddu deddfau y nef, fel y cai yn fynych fuddugoliaeth ar ddeniadau pechadurus. Meddyliai lawer am farw, barn, byd arall, nef, ac uffern; ac felly dygwyd ei meddwl i agwedd sobr a difrifol, nes yr ydoedd llawer o wabaniaeth rbyngddi a'r rhan luosocaf o'i chydieuenctyd. Cofus hefyd gan yr ysgrifenydd ei chlywed yn adrodd am yr argraffiadau a wneid ar ei meddwl pan yn ieuanc gan y fellten, y daran, y corwynt, a gweîth- redoedd yr Arglwydd yn gyffredinol, mor bell ag yr oedd ei meddwl plentyn- aidd yn gydnabyddus â hwy : a bu ys- tyriaeth o Dduw, fel Llywydd y byd, yn foddion i'w chadw rhag cyflawni pechodau rhyfygus, hyd nes y daeth dylanwad mwyn a grymus yr efengyl i effeithio yn briodol ar ei cbalon, nes ei dwyn i gasâu pob pechod, a chysegru ei hunan i wasanaeth yr Arglwydd a'i achos dros byth. Mawrth 15, 1829, priododd gyda Mr. Edward Davies, Millstone Manufacturer, Cheapside, Liverpool; acyn y drefhòno y cartrefodd wedi byny hyd ddydd ei marwolaeth. Bu iddynt wyth o blant, chwech o ba rai sydd etto yn fyw; a chafodd y fam yr hyfrydwch o fagu yr ieuangaf o honynt nes ydoedd yn agos i wyth mlwydd oed; a chyn ei marw, cafodd y fraint o weled yr hynaf yn aelod eglwysig, ac yn ddefnyddiol gydag achos Duw. Derbyniwyd Mrs. Davies yn aelod eglwysig yn y Tabernacl, yn mis Rhag- fyr, 1829, gan y diweddar Barch. John Breese ; a mynych y coflai am effeithiau grymus gweinidogaeth y pregethwr nerthol hwnw ar ei meddwl, er pan ddechreuasai wrando yr efengyl yn y Tabernacl. Pan adeiladwyd capel Salem, symud- odd hi a'r teulu i fyny yno gyda llawer eraill; a bu yn aelod ffyddlon a def- nyddiol yn yr eglwys newydd hyd derfyn ei thaith. Lled afiach ydoedd yn ei blynyddoedd diweddaf; ond etto yn llenwi ei cbylchoedd gyda diwydrwydd a flyddlondeb diflino. Y cystudd a'i dygodd i byrth angeu ydoedd faith a thrwm iawn. Cydgyfarfu amryw an- hwylderau i dynu ei phabell i lawr; ac wedi dyoddef llawer o boenau oddiwrth ëangiad y galon a'r dyfrglwyf, rhydd- hawyd hi oddiwrth ei holl ofidiau, ac ehedodd ymaith Mai 5, 1850, er galar a cholled i'w phriod a'i phlant, a lluaws o gyfeillion crefyddol, yn Liverpool a Chymru. Claddwyd ei gweddillion yn