Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDY.DD. M A 1, 18 51 U W 1 E G 11 E F Y D D . CAN Y DIWEDDAR MR. JONES, LLANSANTFFRAID. " Eithr y doethineb sydd oddinchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hyny heddychlon, boneddigaidd, hawdd ei llawn trugaredd a'ffrwythau da," didttedd, a'diragrithj" Iago 3. 17. Yr oedd gan Iesu ddau apostol o'r un enw—Iago fab Zebedeus, ac Iago fab Alpbeus. Bernir mai yr olaf ydoedd awdwr yr epistol bwn. Gelwir hwn yn epistol cyffredinol am na cbyfeiriwyd ef at un person unigol, nac at un eglwys neillduol; ond "at y deuddeg llwyth oedd ar wasgar," sef yr Iuddewon cred- iniol a gwasgaredig. Ymddengys wrtb adarllen yr epistol fod amryw gyfeiliorn- adau, ymrysonau, cenfigenau, &c. yn mblith y saint yn nyddiau Iago—y cyf- oethogion yn diystyru eu brodyr tlodion, &c. a bod yr aelod bychan sy'n " ffrostio pethau mawrion," yn gwneud cryn niwed yn eu plith. Dengys yr apostol nad oedd y pethau hyn yn arwydd o wir grefydd. "Nid yw y doetbineb hwn yn disgyn oddiuchod; ond daearol, anianol, a cbythreulig yw." " Eithr y doethineb sydd oddiuchod, yn gyntaf pur ydyw," &c. Yn y testun, gwelwn yn I. NODWEDD GWIR GREFYDD, "Doeth- 'meb, a doethineb oddiuchod. 1. Doethineb. Mae yn briodol galw crefydd yn ddoethineb, yn (1.) Oblegid ei bod yn dwyn ei pJier- chenog i iawn ymddwyn at bob gwrth- ddrych—i ymddwyn at bob gwrthddrych yn ol ei wertb a'i deilyngdod. Nid yr un petb yw doethineb a gwybodaeth. Mae'n wir fod y dyn doeth yn wybodus, ond nid yw y dyn gwybodus yn ddoeth bob amser. Mae y doetb yn iawn ddefnyddio ei wybodaetb. Nid yw y dyn sydd yn gwybod ei ddyledswydd, ac etto yn esgeuluso ei cbyfiawni, yn ddoeth. Mae'r doeth yn gwybod ei ddyledswydd, ac yn ei gwneud. Mae'r doeth yn iawn ymddwyn at bob gwrthddrycb yn ol ei wybodaeth am dano—at Dduw, ato ei hunan, a'i gyd-ddynion, &c. (2.) Oblegid ei bod yn dwyn eipherchen i ofalu am y pethau pwysicaf yn benaf. Felly y gwna dyn doeth gyda phethau naturiol—gofala am y pethau mwyaf yn fwy na'r pethau lleiaf; ac os bydd dim yn ol, caiff y lleiaf fod yn ol. Felly y mae y duwiol. Mae'n gofalu am ei gorff a'i amgylchiadau tymmorol mae yn wir, ond nid yn benaf. Crefydd o flaen y byd—yr enaid yn fwy na'r corff. Mae yn ceisio yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfìawnder ef. Mae llawer o ddynion yn ddoeth iawn wrth drin y byd, ac etto yn bollol eägeuluso gogoniant Duw, ac iachawdwriaeth yr enaid. Ynfydion ydynt yn nghyfrif Duw. "Wele, ofn yr Arglwydd, hyny yw doethineb; a chilio oddiwrth ddrwg sydd ddeall." (3.) Oblegid ei bod yn dwyn eipherchen i ofalu am bob peth yn ei dymmor. Felly y gwua amaethwyr a masnachwyr doeth. Mae ganddynt amser i bob petb, ac ymdrechant wneud pob peth yn ei amser. Felly y mae'r duwiol—mae yn adnabod ei dymmor i gael crefydd iddo ei hunan, ac i ymdrechu cael eraill i'w cheisio. Ei iaith ydyw, "Rhaid i mi weithio gwuith yr hwn a'm hanfonodd