Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. GORPHENAF, 1851, I A W N C 1M S T , CAN Y DIWEDDAR MR. W. WILLIAMS, WERN. Yr wyf yn golygu mai ufudd-dod a dy- oddefiadau Iesu Grist, mewn cysylltiad anwahanol â'u gilydd, yw yr hyn a wnaeth Iawn i Dduw yn lle a thros bechaduriaid. Naturiol a fyddai gofyn, Pa beth a wnaeth ufudd-dod a dyoddef- iadau Iesu Grist i Dduw dros bechad- uriaid? 1. Dangosodd yr Arglwydd Iesu, yn ei ufudd-dod a'i angeu, i holl ymerodr- aeth Iehofa, fod y gyfraith yn anfeidrol union a da, a bod drwg anfeidrol yn y troseddiad o honi; ac nad yw Duw, wrth faddeu, yn gwneud i'r drwg yra- ddangos yn llaì. Mae dynion yn fynych, wrth gymmodi y naill ddyn û'r llall, yn ymdrechu dangos fod un yn rhy lym yn ei ofyniadau, ac nad oedd cymaint o ddrwg yn nhrosedd y llall. Ond pan oedd Crist yn gwneuthur cymtnod rhwng pechaduriaid a Duw, nid ceisio dangos fod y gyfraith yn rhy lèm yn ei gofyn- iadau, na llai o ddrwg yn y gwrthryfel, a wnaeth; eithr efe a arddangosodd, mewn ymarferiad, yn ei ufudd-dod, fod y gyfraith mor union a da, nad oedd hi yn gofyn dim ond yr hyn ag oedd efe o'i galon yn foddlon i roddi iddi; ac yn ei farwolaeth dangosodd yn eglur fod cy- maint o ddrwg mewn pechod, fel nad oedd dim llai na gwaed ei galon ei hun yn ddigonol i roddi Iawn am dano: ni ymddangosodd pechod erioed y fath ddrwg ag yn marwolaeth Iesu Grist. Edrychwn ar wasgfa ei enaid yn yr arddî Meddyliwn am ei ruddfanau ar y groes! Mae yn rhaid fod rhyw ddrwg- haeddiant anfeidrol mewn pechod, gan nad oedd digon o deilyngdod mewn dim i wneuthur Iawn am dano ond bywyd person dwyfol! 2. Ni ddarfu Iawn Crist chwanegu dim at ogoniant hanfodol Duw, ond dangos- odd yn y modd mwyaf eglur i'w holl ymerodraeth yr hyn ag oedd efe o ran ei gariad at santeiddrwydd, a'i gasineb at bechod. Yn marwolaeth Iesu dangosodd Duw yn eglur mewn ymarferiad (nid mewn geiriau yn unig) ei fod yn casâu pechod, ac y gwnai ei gosbi, nid yn unig mewn creadur gwael ac isel, ond yn y Bod uchelaf, ac agosaf ato ei hun. Yn awr ni faidd neb trwy holl uffern ddywedyd fod Duw yn ymddwyn yn rhy lym atynt hwy; oblegid nid yw Duw yn ymddwyn yn fwy llym yno nag yr ymddygodd at ei Fab ei hun; nid yW Duw yn gwneuthur dim yn uffern ond yr hyn a wnaeth iddo ei hun yn mberson ei Fab. Dangosodd Duw fod ganddo y fath barch i'w gyfraith fel yr oedd yn well ganddo roddi ei Fab ei hun i gael ei groeshoelio yn waradwyddus, nag i'w gyfraith a'i santeiddrwydd fod dan war- adwydd. Gwnaeth yr ymerawdwr Za- leucus gyfraith fod i bob godinebwr gael tynu ei ddau lygad.—Pan droseddodd ei fab ei hun, efe a dynodd un llygad iddo ei hun, ac un i'w fab, yn yr hyn y dangosodd fwy o barch i'w gyfraith na phe tynasai Iygaid holl odinebwyr ei deyrnas. Yn yr un modd eglurhaodd