Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD RHÁGFYR, 1851, ERASMUS, Erasmüs, yr hwn hefyd a elwid Desid- erius Erasmus, a gyfriflr fel y penaf a'r blaenaf o'r Diwygwyr Protestanaidd ar y Cyfandir, ond etto heb fod mor hyf a Luther yn tòri allan yn erbyn Pabydd- iaeth. Yn ninas Rotterdam, Holland, y ganwyd ef yn y flwyddyn 1467, ac felly yr oedd efe yn bŷn na Luther o tua 16 o flynyddoedd. Pan yn 17 oed, anfonwyd ef i ysgol Deventer, yn nhalaeth Gender- land, Ue y cynnyddodd yn ddirfawr mewn dysgeidiaeth. Tra yr oedd yn yr ysgol hòno, bn eì dad a'i fam farw yn agos ì'w gilydd. Ar ol hyny trefnwyd tri o olygwyr i ofalo am y bachgen, y rbai oeddynt benderfynol i'w roddi mewn mynacblog i'r dyben iddynt gael y cyf- leusdra i'w yspeilio o'i drefdadaeth, ac eìddo ei henafiaid.' ;Hwy a'i symndasant ef o fynachlog i fynacblog, nes o'r diwedd y rhoddasant ef yn Ystein, yn dra phell o wlad ei enedigaetb. Efe yo y man a Iwyr flinodd ar gyflwr mynach- aeth; ac yn ganiynol gwahoddwyd ef gan Archesgob Combray, yn yr Iseldir, I fyw gydag ef, ac yno nrddwyd ef yn offeiriad. Pan yn 39 oed, aeth i Paris, prifddinas Ffrainc, He y cynnaliai ei hun wrth ddyegu eraill o'r neilldn. Yn y flwyddyn 1497, efe a ymwelodd ô. Lloegr, llc y croesawyd ef yn fawr iawn gan ysgolheigion penaf y deyrnas bon ar y pryd. Yma ymroddodd i'r iaith Roeg, yn yr hon nid oedd mor hyddysg yn flaenorol. Yn 1503, ymddengys ei fod yn LonTain, prifysgol nodedig yn yr Iseldir, Ue y bu yn ddiwyd yn dysgu duwinyddiaeth o dan gyfarwyddyd Dr. Adrian Florent, yr hwn wedi hyny ä fa yn Bab, Adrian VI. Yn 1505, ymwel- odd â Lloegr yr ail waith. Yn 1506, ni a'i cawn yn Tarin, yn Itali, lle y graddiwyd ef yn Ddoctor mewn Duwin- yddiaeth. Wedi byny teithiodd drwy Bologna, Venice, Padaa, a Rhnfain. Ymdrechodd ei hen gyfaill Adrian ei hudo i aros yn Rbnfain; ond yr oedd brenin Lloegr, Harri VIII. wedi ei wabodd i'r deyrnas hon; ac felly, yn 1510, daeth yma y drydedd waith. Yn awr, drwy annogaeth Fisher, archesgob Rochester, yr hwn oedd y pryd hwnw yn ffafriol i'r brenin, y gosodwyd Erasmus yn broffeswr duwinyddiaeth, ac hefyd yn broffeswr yr iaith Roeg, yn mhrif- ysgol Caergrawnt. Etto, er hyn, ya 1514, gwelir ef yn Basil, Swiízerland, yn rhagbarotoi i argraffa y Testament Newydd yn y Roeg; ac yn 1516 y daeth allan o'r wasg, a'r cyntaf erioed a argraff- wyd yn yr iaith, am a wyddom ni. Dyma yr amser yr argraffodd efe Epis- tolaa St. Jerome. Oddeutu yr amser yma y dechreaodd Lnther ddynoethi twyll y grefydd Bab- aidd yn ofnadwy; ond yr oedd Erasmus wedi ei flaenori drwy gyhoeddi traeth- odau er dynoethi mynachaetb, a chang- benaa eraill oeddynt goelgrefyddol, yn ngbyda buehedd annuwiol yr eglwyswyr yn gyffredinol. Ac am fod iddo air mawr fel ysgolhaig, 8 duwinydd, a gwr tra dawiol, derbynid yr oll a ddywedai yn mhell ac agos, ac yr oedd galw mawr am ei lyfrau gan fonedd a gwerin. Fel hyn y blaenorodd y Diwygiad ar y Cyf- andir, yn gystal ac yn Lloegr, hyd nes 2 Y