Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

I) Y S G E í) Y D l) a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—792. CHWEFROR, 1888. Cyf Newydd-192. Phil. ii. 5—11, a Heb. ii. 5 — 18. GAN Y PARCH. E. CYNFFIG DAYIES, B.A., MENAI BRIDGE. YSGRIF I.-RHANAU CYDGYFNODOL A CHYDBERTHYNASOL OR TESTAMENT NEWYDD. Yn ei ffurf ysgrythyrol y mae yr athrawiaeth am Berson Grist yn meddu symledd sydd gydweddol â natur un o brif, os nad prif wirionedd datgudd- iad, a'r datguddiad hwnw wedi ei fwriadu i'r holl deuìudynol; ond yn ei gwedd hanesyddol, o'i holrhain i lawr fel prif dcstun dadleuon y pum' eanrif cyntaf, ac fel maes dihysbydd meddyliau cawraidd hyd heddyw, y mae yn meddu dyfnderoedd nas gellir eu plymio â llinynau amser, ac uchelderau ar uchelderau a ymgodant uwcîilaw golygon a chymylau y. fuchedd hon. Modd y dengys Shedd a Dorner, y mae hanes yr athrawiaeth yn gwisgo neillduolion mwy rhyfedd o ran y galluoedd meddyliol a gysegr- wyd a'r amser maith a dreuliwyd i olrhain ei hamcanion (speculatìons) dibendraw nag a berthyn i unrhyw athrawiaeth arall o fewu terfynau cred. Eto mewn gwirionedd y mae yr un dirgelwch yn perthyn i'r athrawiaeth yn yr ysgrythyr ag sydd iddi yn nghyfundrefnau uniongred yr Eglwys yn mhob oes, ond fod dyfnder y dirgelion ynddyfnder tryloew yn y Beibl—yn rhedfa ffydd yn fwy na rhodfa deall. Ac heblaw hyn, pan fydd tywyllwch ymddángosiadol o fewn y Beibl yn gordoi unrhyw ganghen o'r athrawiaeth, teimlwn gan ainlaf er hyny ei fod " yn dywyllwch oddiar otiawnder goleuni." Eithr o barthed i'r amcan-dybiau sydd wedi ymgasglu o gylch yr athraw- iaeth am Berson Orist oes ar ol oes, " nid y\v yn rhaid mabwysiadu yr i*n o honynt; nid oes rwymau arnoni i ddewis rhyngddynt; gallwn sefyll draw oddiwrthynt oll; ahyn hwyrach fydd oreu pan y gall ffydd fforddio troi heibio eu gwasanaeth. Gorchymyna doethineb i ni wahaniaethu yn glir ac yn eang rhwng y gwirioneddau mawrion ddatguddir i ni yn yr ysgrythyrau, a'r amcan-dybiau ddyfeisiwyd gan feddylwyr dyfnion gyda'r bwriad o ddwyu y gwirioneddau hyn yn fwy llawn o fewn crafangiad y dealltwriaeth."* Ond cofier hyn, nas dichon troi heibio y gwirionedd ysgrythyrol am Berson Crist heb dynu ym dth sylfeini y datguddiad, a gŵrrdroi egwyddor sylfaenol ein bodolaeth fel Cynulleidfaolwyr Annibynol: gwel Religious Bepublics. Gan hyny, gweddos a nanfodol i ni ar y pwnc hwn yn anad un pwnc ydyw ♦Bmce, " Humiliation of Christ," tudaL 190.