Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—793. MAWRTH, 1888. Cyf Newydd—193. Sabfcafíiau ägma a Cíìttaítî. GAN HERBER. XXI.-SABBATH GYDA'R PARCH. J. THOMAS, D.D., LIVERPOOL. " I would rather, when I am laid in the grave, that someone in his manhood should stand over me and say, ' There lies one who was a real friend to me, and privately warned me of the dangers of the young; no one knew it, but in many ways he aided me in time of need ; I owe what I am to him ;' than to have erected over my grave the most beautiful sculptured monument of Parian or Italian Marble."—Dr. Sharpe. Clywais fod hen weinidog enwog a meddylgar yn ddiweddar wedi gwneuthur y sylw rhagorol a ganlyn :—" Chwi, bobl ieuainc o'r pymtheg i'rpump ar hugain, gwnewch yn fawr o'ch tymhor, ufuddhewch yn awr i'r efengyl ac i'r pregethwyr ydych yn wrando; y ni ydyw y pregethwyr goreu a glywch chwi byth. Beth, meddech chwi, a ydych yn canmol eich hunain ì Oni all Duw godi pregethwyr mwy na chwi ? Gall, mi wn, ond nid i chwi. Y pregethwyr y mae pobl ieuainc yn glywed o'r pymtheg i'r pump ar hugain ydyw y rhai goreu, a'r rhai mwyat iddynt hwy am eu hoes." Yr wyf wedi troi llawer ar y geiriau uchod yn fy meddwl, ac yn cael eu bod yn llawn gwirionedd ac addysg. Y pregethwyr a glywsom yn yr oedran uchoi ydyw y rhai mawr gan y rhan fwyaf, os nad pawb o honom. Blynyddoedd pan yr oeddym yn Uawn edmygedd, a phob dawn yn newydd i ni, a'r gallu i ryfeddu yn fyw ynom. Ac onid hyn sydd yn peri fod dynion wrth heneiddio yn dywedyd fod pregethwyr y dyddiau gynt yn llawer rhagorach na'r rhai presenol? Y mae yn llawenydd i mi i allu credu fod yr ieuainc yn mhob oes yn galiu edmygu eu dewis-bregeth- wyr, a'u bod yn rhai mawr yn eu golwg, ac yr arosant felly byth yn eu cof a'u myfyrdodau. Yr oedd gwrthddrych yr ysgrif hon yu un o'r pregethwyr mawr a glywodd yr ysgrifenydd ganoedd o weithiau rhwng y pymtheg a'r pump ar hugain, ac y mae yr argraff yn annüeadwy; erys bellach yn bregethwr mawr iddo am byth. Clywais ef fel Mr. Thomas, Bwlchnewydd, yn pregethu yn arddull ei ddyddiau boreuol —ei frawddegau wedi eu llunio yn gywrain, pan yn hoff o gyferbyniadau rhwng y ddeddf a'r efengyl, Sinai a Chalfaria, y byd a'r bedd, ac yn arliwys ei ddrychfedd- yliau fel rhaiadr, nes ein syfrdanu â syndod ac edmygedd. Cefais y fraint o ddechreu fy mywyd fel llanc 18 oed yn Liverpool, pan yr oedd ef yn dechreu ei weinidogaeth yn y Tabernacl. Y mae genyf o'm blaen yn awr lyfr yn cofnodi testynau a phenau pob pregeth a gly wais yn y Tabernacl