Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYD D : A'R HWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR." Hen Gyf.—802. RHAGFYR, 1888. Cyf. Newydd—202. â| ©ftrir îöDIab0arhni.# GAN Y PARCH. OWEN EVANS, D.D., LLUNDAIN. " Canys Mordecai yr Iuddew oedd yn nesaf i'r brenin Ahasferns, ac yn fawr gan yr Iuddewon, ac yn gymeradwy yn rayss lluaws ei frodyr; yn ceisio daioni i'w bobl, ac yn dywedyd am heddwch i'w holfhiliogaeth."—Esther x. 3. Mae llyfr Esther yn wahanol i bob un o lyfrau eraill y Beibl, am nad ydyw enw Duw i'w gael ynddo o gwbl; ac y mae hyny wedi peri hyd yn nod i rai dynion da a duwiol amheu ei ddwyfol ysbrydoliaeth, a phetruso ei gydnabod yn rhan o'r ysgrythyrau santaidd. Ond fel y sylwa Matthew Henry, os nad ydyw enw Duw yn y llyfr, y mae oys Duw yn ddigon amlwgynddo. Byddai yn anhawdd meddwl am unman lle y gwelir ei fys yn eglurach nag yn y llyfr addysgiadol hwn. Ond edrychwch pa fodd y mae ei ragluniaeth Ddwyfol yn gweithio yma. Nid trwy wyrthiau nerthol, na thrwy unrhyw oruchwyl- iaethaugoruwchnaturiol; ond trwy amgylchiadau cyffredin, a thrwy ddyg- wyddiMau a ymddangosant i ni yn bethau hollol ddamweiniol. Y mae brenin Persia ryw noson yn methu cysgu, ac eto ni wyddai yn y byd pahain ychwaith, canys yr ydoedd yn ei iechyd arferol. Wedi bod yn troi ac yn trosi yn anesmwyth am oriau yn ei wely, y mae o'r diwedd yn galw am lyfr i'w ddarllen iddo, er mwyn ceisio dyddori a difyru tipyn arno yn ystod oriau hirfaith a beichus y nos; a'r llyfr neillduol y dygwyddodd ei fawrhydi alw am dano oedd Llyfr Coffadwriwthau Hanesion yr Amseroedd; a'r man y dygwyddodd y llyfrgellydd agor arno, yn hollol ddifwriad, oedd y tudalen lle yr oedd hanes gwasanaeth Mordecai wedi ei gofnodi, trwy ba un y cawsai y brenin, ysbaid o amser cyn hyny, ei ddiogelu rhag cael ei fradlofruddio gan ddau o'i ystafellyddion. Yn awr, pe buasai y brenin wedi gallu cysgu y noson hòno fel arferoî, neu pe buasai wedi dygwydd galw am offer cerdd, neu rhyw lyfr arall, yn lle y llyfr neillduol hwnw, i'w ddifyru, neu pe buasai y darllenydd wedi dygwydd agor ar ryw baragraff arall yn y llyfr, fe fuasai yr holl Iuddewon trwy holl daleithiau yr ymerodraeth eang yn cael eu dyfetha yn ol bwriad a chynllun dialgar a llofruddiog y gormeswr tra- hausfalch Haman. Ond trwy gydgyfarfyddiad mân-ddygwyddiadau y noson ddigwsg hòno, yn ilys y brenin, fe ddiogelwyd yr Iuddewon rhag y gyflafan waedlyd, a'r dinystr cyffredinol oedd yn eu bygwth—fe hyrddiwyd yr adyn * Traddodwyd y bregeth hon yn Fetter Lane, Llundain, ar yr achlysur o farwol- aeth Mr. Henry Richard, A.S. Bu Mr. Richard farw yn sydyn yn Treborth, gerllaw Bangor, palasdy Mr R. Davies, Arglwydd-Raglaw sir Fou, Awst 20fed, yn 76 oed; a chladdwyd ef y dydd Gwener canlynol, yn nghladdfa enwog Abney Park, Llundain —-Maes Machpelah Ymneillduwyr y Brifddinas. Gweinyddwyd yn y capel gan y .Farchn. E. White, a Dr. Dale, a öfwedwyd ychydig eiriau wrth y bedd yn Gymraeg gan yr ysgrifenydd.