Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DYSGEDYDD a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—809. GORPHENAF, 1S89. Cyf. Newydd.— 209. GAN Y CYNGHORWR W. J. PARRY, COETMOR HALL. Mae y planhigyn ieuanc tyner yn gofyn mwy o ofal ac amddiffyn na'r dderwen dewfrig gadarn. Mae'r naiîl wedi profì nerth lluaws ystormydd, a myned trwy amrywiol dymhorau yn llwyddianus, tra mae y llall ar wynebu ei rhai cyntaf, ac yn y cyflwr mwyaf anfanteisiol i wneud hyny yn llwydd- ianus. Felly gydag aelodau ieuainc eglwysi. _ Mae i bob cylch newydd ei beryglon, ac nid yw y bywyd crefyddol yn eithriad. Cymdeithas anmherffaith yw yr eglwys yma, ac fel pob peth arall anmherffaith nid yw hithau heb fod yn agored i gyfeiliorni. Drwg yw cyfeiliornad ag y mae pawb yn agored iddo. Mae canlyniadau ofnadwy i gyfeiliornad eglwys megys i' gyfeiliornad person. Mae eneidiau mewn perygl, ac fe wna alanas mwy yn mysg dychweledigion newydd na neb. Maes llafur yr eglwys yw y byd. Mewn cyfeiliornad y mae dynion tra yn dilyn peehod, ac amcan eglwys yw dwyn dynion uo gyfeiliorni eu ffyrdd i'r iawn allan o fagl diafol." Cyfeiliornad mawr a marwol y byd yw pechod. Ni ddychwelwyd dyn erioed oddiwrth un pechod na byddai perygl iddo syrthio yn ol iddo tra yn y fuchedd hon ; a pho hwyaf y bydd dyn wedi bod yn dilyn unrhyw bechod, mwyaf oll yw ei berygl wedi ei adael i ddychwelyd ato. Dyledswydd yr eglwys yw gwneud a allo i'w gadw yn ngwyneb y perygl y mae ynddo. Nid yw dyfod i'r eglwys yn ddigon i ddyn, mae ganddo waith pellach a challach na hwn. Nid y gwaith cyntaf yw y gwaith anhawddaf bob amser. Rhan fechan iawn o waith yr eglwys yw cael dynion i mewn iddi. Ar ol eu cael yno mae yn gorphwj s arni wed'yn i drefnu ar eu cyfer fwyd cryf, iach ; a'u cyfarwyddo i adnabod cyfrwys ddichellion yr un drwg, a'u harwaiu i'r fan Ue mae nerth V\v gael yn ol y dydd, a chymhorth i'w gael wrth raid. Plant yw dychweledigion newydd, ac fel plant mae gwaith dysgu arnynt; oes, a gwaith mawr hefyd i fagu ynddynt flas at ddysgu. Nid ar unwaith y gellir gwneud hyny, ac ni dder- bynir un esgus gan Dduw oddiwrth yr eglwys dros ddiffygio yn eu llafur i gyrhaedd hyn. Rhaid cofìo fod angen ar y plant am gyffyriau i wrthweithio &gwenwyn mae eu bywyd pechadurus blaenorül wedi ei roddi yn eu natur. id yr un math wna y tro i wrthweithio pob gwenwyn. Mae hadau peehod yn amrywiol, a'r ffrwyth mor amrywiol a'r hadau. Nid yr un fath y dylanwada pob pechod ar bob dyn. Dylai yr eglwys astudio pob aelod ddaw i mewn iddi fel yr astudia y meddyg llwyddianus y claf fydd dan ei ofal. Wedi dyfod i adnabod beth yn natur y dyn oedd yn ei wneud mor agored i lithro i'r pechod oedd barod i'w amgylchu, ac adnabod natur dylanwad y pechod hwnw arno, ni bydd yn anhawdd wed'yn i'r craff a'r