Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsôedpdd "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyf. Newydd.—16 EBRILL, 100-1. Hen Gyf. - 514. M O S E S . GAN Y PARCH. J. J. JONES, B.A., LLANELLI. Ysgrif I. "Moses gwr Duw." -ÜEUT. xxsi. 1. Yk Llys Pharaoh. "Mae'r aniser weithian wedi dod i ben Y rhaid i mi ei ollwng ef i fyn'd 1 Lys yr Aipht, i'w fagu .... ()! rhwyma'i galon dyner ef yn awr A rhwyniyn dy gyfanmiod aicr byth Wrth Dduw ei dadau." jHAMANT dlos yw hanes genedigaeth a mebyd Moses. Mabwysiadwyd ef gan ferch Pharaoh, ond magwyd et gan ei fam. Ni wyddom ei oedran pan ddygwyd ef i'r Llys. Tebygol ei fod wedi cyrhaedd ychydig o fîwyddi, a'i fod wedi aros yn ddigon hir yn ei hen gartret i wybod rhyw gymaint am ei wir berthynas â pìant Israel. Anhawdd genym íeddwl i arferion crefyddol teulu Amram. yr hwiangerddi ganai ei fam uwch ei gryd, a llawer i awgrym arall fyned oll yn oter. Er i'w wisg a'i iaith, ei ddysg, a'i gylch fod Aiphtaidd am dymhor hir, eto yr oedd ei waed a'i wedd, ei ddawn a'i anian yn Hebreaidd, a chafodd y sibrydion ddisgynasai ar ei glustiau pan yn faban, a gogwydd ei galon, eu haraf egluro gan Ragluniaeth y nef yn ngwead amgylchiadau cynar ei fywyd. Pa beth ellir wybod am Moses yn y Llys? Mae Exodus yn ddystaw, mae traddodiad yn hyawdl ond yn ddychmygol, ac felly yn ansicr. Credwn y gellir dibynu ar eiriau awgrymiadol Stephan, "A Moses oedd ddysgedig yn holl ddoethineb yr Aiphtiaid," sef ei fod wedi ei ddwyn i íyny {instructed) yn addysg oreu y wlad. Gallwn gasglu oddiwrth hyn iddo tyned drwy y cwrs arferol o gasglu gwybodaeth yn yr Aipht. Os felly, cafodd ei addysg elfenol gan athrawon y llys, a safai ar y pryd yn Memphis, dinas fawr ar lan y Nilus. Yn ymyl y lle hwn yr oedd Teml fawr y duw Ptah, sef Ffurfiwr y bydoedd; ac yn y golwg yr oedd y Pyramidiau