Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsaedpdd •'A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyf. Newydd.—21. MËDI. 1904. Hen Gyf.-519. ' Y GORUWCHNATURIOL YN MHERSON Y MAB GAN Y PARCH. J. CHARLES, DINBYCH, |EFNYDDIR y geiriau "natur" a "naturiol" mewn gwahanol ystyron. Weithiau defnyddir y gair natur am y cread islaw i ddyn, ac ar wahan iddo; a phrydiau eraill, cymerir dyn i mewn yn y darnodiad. Os cymerir y gair naturiol yn yr ystyr gyntaf, y mae yn iawn dweyd fod dyn yn oruwchnaturiol, a gellid galw ei weithredoedd yn wyrthiau. Ni adeüadodd natur dŷ na llong erioed. Y mae tref, felly, a phob ty yn y dref yn wyrch. Ond wrth son am y goruwchnaturiol yn mherson Mab Duw, cynwysir y dynol yn y naturiol. Golygwn felly fod y Mab, nid yn unig yn oruwchnaturiol, ond yn oruwch- ddynol, a'i fod felly wrth ei gymharu â'r dynion mwyaf ysbrydol- edig welodd y byd erioed. Ni theimlwyd y tath ddyddordeb dwfti yn athrawiaeth Person Mab Duw ag yn ỳr oes hon, er y canrif- oedd cyntaf yn hanes Cristionogaeth. Ceir yn awr, fel yn y canrif- oedd cyntat, lawer o amrywiaeth barn ar y pwnc; ac nid yw y rhan fwyaf o'r damcaniaethau diweddar, ond hen gyfeiliornadau mewn gwisg newydd. Gwedir gan rai wir ddyndod y Mab, a dysgant fod y Person Dwyfol yn cymeryd lle yr enaid dynol yn Iesu Grist. Hyn oedd dysgeidiaeth yr Apollinariaid. Yr un Duw, neu yr un Person, mewn gwahanol agweddau yw y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glan, yn ol rhai. Felly ycredai Sabellius a'i ganlyn vyr. Edrycha eraill ar Iesu Grist fel dyn ysbrydol, yn bodoli cyn dytod i'r byd, a'i fod uwchlaw dynion cyffredin yn ei waith, ac fel datguddiad o Dduw; ondŷ ar yr un pryd yn is na Duw, ac heb fod yn Dduw. Onid hyn o ran sylwedd oedd dysgeidiaeth Arius? Dichon fod y gred gyfiredinol yn Nuwdod y Mab ar hyd y canrifoedd wedi bad yn achlysur i'r gwirionedd am ei wir ddyndod gael ei esgeuluso. Er fod ei ganlynwyr lluosog yn credu ynddo fel gwir ddyn, eto nid oedd y gwirionedd hwn wedi cael lle dyladwy yn eu dysgeidiaeth ac yn eu bywyd. Ond y mae yr oes hon wedi ymdaflu i ddarllen a myfỳrio ei hanes o'r newydd, mewn dull ymarterol a gwyddonol, i P