Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsaedpdd "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." PALESTINA A'R BEIBL, NEU Y WLAD A'R LLYFR. GAN Y PARCH. D. GRIFFITH, BF.THEL. HOLL wledydd y ddaear, Palestina ar lawer cyfrif yw yr hynotaf. Oherwydd y digwyddiadau mawrion a rhy- feddol a gymerasant le ynddi, hi a erys mewn cof tra y nefoedd a'r ddaear mewn bod. Anwylir hi ynangerddol gan bob Iuddew, ac edmygir hi yn drwyadl gan bob Cristion drwy y byd. Pyla gogoniant yr Aipht ac Assyria, fel eiddo Groeg a Rhufain, o'i osod gyferbyn â'r gogoniant tra-rhagorol a berthyn iddi hi. Dyma wlad y patriarchiaid a'r prophwydi sanctaidd,—gwlad y Messiah a'r Apostolion bendigedig. Nid oes randir o honi arnas hynodwyd gan ddigwyddiadau goruwchnaturiol, achan bresenoldeb dynion nad oedd y byd yn deilwng o honynt. Mynych hefyd y sangwyd ei llwybrau gan draed angylion Duw. Y mae pob ardal o'i mhewn yn peri adgofion am weithredoedd nerthol, pob afon yn murmur am ryfeddodau oesoedd a fu, a phob mynydd a bryn fel yn adsain gan leferydd yr Hollalluog o hyd. Gynt, hi a "adwaenid wrth wahanol enwau, megys, "Gwlad Canaan,*' "Gwlad yr Hebreaid," "Gwlad Israel," &c. Wedi y caethiwed, "Gwlad Judea" y gelwid hi fynychaf. Y Rhufeiniaid a roddasant iddi yr enw Palestina. Moses oedd y cyntaf i wneud defnydd o'r enw, ond nid i'w gymhwyso at y wlad oll. Yn ei gân ardderchog ar ol gweled boddi yr Aipht, gan gyfeirio at y dylanwad a gaffai y wyrth ar y cenhedloedd o amgylch, efe a ddywedai,— "y bobloedd a glywant ac a ofnant; dolur a ddeil breswylwyr Palestina." Gwíad y Philistiaid oedd ganddo mewn golwg, yn ddiau, wrth ddefnyddio yr enw; ond gyda threigliad amser, wele yr enw a roddai ef i gyfran o'r wlad, yn dyfod yn enw cymeradwy arni oll. Er mai gwlad fynyddig ydyw, tebyg o ran maint i Dywys- ogaeth Cymru; eto, o ran ffurf, cynyrchionnaturiol, coedydd, llysiau, creaduriaid byw, hinsawdd a ijiymhorau, y mae yn gwahaniaethu yn fawr oddiwrth yr eiddom ^T, ac hefyd oddiwrth y rhan fwyaf o wledydd y ddaear. Rhwydd y gwelir hyn gan yr oll o ddarllenwyr yBeibl. Am lawer oes, buwyd heb wybod, yn y parth Ewropaidd o r byd, I A