Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsaedpdd "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedî eî Uno." Cyf. Newydd.—43 MEHEFIJN, 1906, Hen Gyf.—538. PEN GOLEU A CHALON GYNHES. GAN y PARCH. R. ROBERTS, MANCHESTER. SAFBWYNT natur a gras, y mae ein testun yn un nodedig o bwysig; ond nid gwaith hawdd yw i'r Gwyddonydd na'r Duwinydd ei drafod. Gofynwyd i ŵr anllythyrenog ar ol idddo fod yn gwrando ar bregethwr dysgedig, beth a feddyliai am dano; ac meddai, "Da ragorol." Dywedwyd wrtho, "ie, ond nid oeddych yn deall y bregeth." Ac atebodd, "O nac oeddwn i, ond yr oeddwn yn sicr ei fod ef yn ei deall." Am bwnc yr ysgrif hon mae yn sicr nad yw y Gwyddon- ydd yn ei ddeall ond yn anmherffaith iawn; ac ni feiddia yr ysgrif- enydd fyntumio fod ganddo weledigaeth eglur arno. Ar yr un pryd. y mae y fath ddyddordeb, a phwysigrwydd ynddo, fel nad oes dim i'w wneud ond ufuddhau i'r Golygwyr, a dilyn cyfarwyddyd hen bregethwr o ucheldiroedd yr Alban, yr hwn a gynghorodd gyfaill gan ddywedyd—"Y peth a wyddost, dy wed fel peth a wyddost; a'r peth yr wyt yn ofni na wyddost, fel peth y dylid ei wybod." Mae yr enaid yn fyd o sylwedd rhyfeddol, ac y mae yn llawer mwy na'r byd o'r tuallan i ni, er y telir mwy o-sylw i'r byd allan- ol nac i'r byd mewnol. Mae Eneideg (Psychology) yn honi llawer, ond fel y dywed un, ychydig o gynydd y mae wedi ei wneud er dyddiau John Locíce. O'r tu arall, y mae Anianeg (Physiology) wedi gwneud cynydd amlwg. Mae y pellddrych (telescope) yn cael ei berffeithio fwy-fwy i wneud darganfyddiadau yn y ffurfafen. Mae y Rontgen Rays yn awr yn lleoli unrhy w ddefnydd estronol a fyddo yn y corff, ond trwy brofiad ac ystyriaeth yn unig y gellir ym- gydnabyddu â galluoedd y meddwl a'r ysbryd. Rhaid i Eneideg ddechreu gyda phrofiad a diweddu gydag ystyriaeth. Nid yw y Hygad yn gallu edrych i mewn iddo ei hun. Gall y meddwl wneud hyny. Gall fod yn ymchwilydd, ac yn wrthddrych ymchwiliad yr un pryd. Gall yr amgyffrediad fod yn wan, a bod yr ewyllys yn fref, ac yn gwrthod ystyried fel y gwrthodai rhai gynt syílu drwy ellddrych Galileo, rhag digwydd aflonyddu ar eu syniadau cyntefìg. "A phwy mor ddall a'r neb na fyn weled." Ond ystyried îieu beidio, mae y ffeithiau yn aros. Fel pob cangen o Wyddon-