Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

"A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyf. Newydd.—48. TACHWEDD, 1906. Hen Gyf.—543. CYFLOG PECHOD A DAWN DUW. PREGETH GAN Y DIWEDDAR DR. WILLIAM REES. " Canys cyflog pechod yw marwolaeth, eithr dawn Duw y w bywyd tragwyddol trwy Iesu Grist ein Hargiwydd."—Khuf. vi. 23. MAE deddf ac efengyl ar gyfer eu gilydd, yn ymyl eu gilydd, ac mewn perffaith gymod â'u gilydd yn y testyn; a'r egwyddor, y drefn fawr sydd yn cysoni y naill â'r lla.ll, yn cael ei nodi allan. "Cyflog pechod yw marwol- aeth," dyna ddeddf ddianwadal ac anghyfnewidiol; ni all cyfìog, canlyniad pechod, fod yn ddim arall. Lleferydd, llais, iaithcyfraith ydyw'r ymadrodd. "Dawn Duw yw bywyd tragwyddol;" dyma efengyl yn ymyl y gyfraith, dyma ei hiaith, a'i llais addfwyn hithau: a gwynfyd y rhai a adwaenant yr hyfrydlais hwn—y newydd da o lawenydd mawr y mae yn ei gynwys—bywyd, a bywyd tragwyddol i'r rhai yr oedd y gyfraith fel pechaduriaid yn eu condemnio yn gyfiawn i farwolaeth, fel cyflog a chanlyniad angenrheidiol pechu. "Trwy Iesu Grist",—dyna y modd, y drefn y mae y dawn yn rhedeg, heb ddianrhydeddu na dirymu y gyfraith—y ddeddf yn cael ei chadw mewn anrhydedd, a'r euog yn cael ei gadw rhag marwolaeth. Y mae pob peth yn yr holl çreadigaeth dan ddeddf, pobbyd, pob elfen, pob creadur," pob llwchyn yn mhob un, yn ngafael cyfraith, dan ddeddf. Y mae deddf yn angenrheidrwydd bodolaeth. Mor gynted y dechreu peth fodoli, y mae deddf yn cydioynddo—yn codi o'i natur: y mae rhywbeth ynddo sy'n ei wneud yn ddeddf iddo ei hun, fel y dywed yr Apostol am y cenhedloedd y rhai nid yw y ddeddf ysgrifenedig ganddynt. Deddf sy'n ei reoli, yn ei gadw yn ei le priodol iddo; amod ei fywyd ydyw, ni allai fyw yn un lle, na chyflwr gwahanol, marwolaeth fyddai cyflog, canlyniad, newid cyflwr a sefyllfa iddo; trengai yr anifail yny dyfroedd, a'rpysgodyn ar y maes. Y mae yr holl greadigaeth yn llawn o ddeddfau byw ar waith yn ddiorphwys, ddydd a nos, haf a gauaf, gwynt a gwlaw, yr afonydd a'r môr, yr holl ronynau a'r elfenau—oll dan ddeddfau, y rhai sydd yn effeithio canlyniadau rheolaidd a dianwadal. 11