Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

'• A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." CYF. Nrwvdd.-49. RHAGFYR, 1906 Hen Gyf.-544. GWiR A GAU DDIWYGIAD. GAN Y PARCH. OWEN EVANS, D.D. "Pan fyddo un cryf arfog yn cadw ei neuadd, y mae yr hyn sydd ganido mewn heddwch: ond pan ddêl un cryfach nag ef arno a'i orchfygu, efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth ef yn yr hon yr oedd yn ymddiried, ac aran eianrhaith ef. * * * * Pan êl yr ysbryd afkn allan o ddyn, efearodiamewn lleoedd sychion, gan ^eisio gorphwysdra: a phryd na chaffo, efe a ddywed, Mi a ddych- welaf i'm tŷ o'r lle y deuthum allan. A phan ddeí, y mae yn ei gael wedi ei ysgubo a'i drefnu. Yna yr ä efe. ac y cymer ato saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun," &c —Luc xi. 21.—26. jR hyn a fu yn achlysur i'n Harglwydd i lefaru y geiriau difrifol ac addysgiadol hyn oedd—gwaith ei eiynion maleisus yn haeru mai trwy gymorth Beelzebub, penaceth y cythreuíiaid, yr oedd efe yn bwrw allan gythreuliaid o'r trueiniaid anffodus a feddienid ac a boenydid ganddynt. Yr ydym yn cydnabod yn rhwydd fod llawer o ddirgelwch yn perthyn i'r Meddiant Cythreulig y darllenwn am dano yn yr Efengylau. Ond pa anhawsderau bynag a allant fodyn perthyn i'r mater dyrus hwn, y mae yn sicr mai nid anhwyldeb a gwallgofrwydd yn cael ei gynyrchu gan achósion naturiol ydoedd; ond fod llawer o bersonau yn cael eu meddianu yn llythyrenol yn eu cyrfî, yn gystal á'u hen- eidiau, gan gythreuliaid. Y mae Luc, yr hwn oedd yn physygwr, yn ei wahaniaethu oddi wrth glefydau a pliläau.1 Ac nid clefydau oedd yn ofni y farn, yn rhodio lleoedd sychion, ac yn dymuno caniatad i fyned i'r moch. Ac nid dyn gwallgof oedd yn adnabod y Gwaredwr, ar yr olwg gyntaf arno, yn y synagog yn Capernaum, yn well nag yr oedd hyd yn oed ei ddysgyblion ef ei hun yn ei adnabod eto; ond rhyw ysbryd aflan oedd yn llefaru ac yn gweiddi mewn ing ac anobaith yn y dyn druan. Y mae geiriau ein Harglwydd ei hun, hefyd, yn "bendant a diamwys ar y mater. Yr oedd efe yn honi ei fod yn bwrw allan gythreuliaid. Ac felly, os nad oedd dynion yn cael eu meddianu gan gythreuliaid, rhaid i ni gredu fod "y Gwir- ionedd a'r Bywyd" ei hunan, yn ein twylio ac yn ein camarwain. Ac nid yw yn fwy rhyfedd fod Duw yn goddef i ysbrydion drwg ^Luc vii. 21. IM