Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsaedpdd " A'r hwn y mae yr Annibynwr wedî ei Uno." CYF. Newydd.—61. RHAGFYR, 1907. Hen Gyf.-ooG. CRIST YN ANRHYDEDDU Y GYFRAITH. GAN Y PARCH. OWEN EVANS, D.D. *'Yr Arglwydd sydd foddlawn er mwyn eigyfìawnder; efe a fawrhâ ygyfraith, ac a'i gwna yn anrnydeddus."—Esaiah xlii. 21. |AE y bennod hon yn cynwys proffwydoliaeth ardderchog am y Messiah, o ran ei gymeriad a'i waith: adn. i—4. Ac ymddengys i mi yn dra sicr fod y testun, a'r ddwy adnod flaenorol, yn cyfeirio atyMessi'ah. Mae yr enwau a roddir yma ar y Person y sonir am dano yn arwyddo hyny. Fe'i gelwir gan Dduw, "Fy ngwas," "fy nghenad a anfonais," a'r "perffaith." Mae yn wir fod Israel yn cael ei alw yn was yr Arglwydd; ond yr oedd Israel yn gysgod o Grist; ac ynddo ef yn unig y mae y pethau a ddywedir yma am was yr Arglwydd yn cael eu sylweddoli yn llawn. Ond dichon fod yn anhawdd gan rai gredu fod yr adnodau hyn yn cyfeirio at y Mess'iah, am fod y Person y sonir am dano yn cael ei ddarlunio fel un dall a byddar: adn. 20, 21. Yn awr, nid ydym i feddwl am foment fod y Messiah yn ddall ac yn fyddar yn yr un ystyr ag yr oedd Israel wrthnysig felly. Ond ar yr un pryd, y mae yn eithaf priodol ei ddarlunio yntau yn ddall ac yn fy.dar, am ei fod wedi rhoddi ei feddylfryd mor llwyr ar orphen a chwblhâu ei waith mawr, fel yr ydoedd mor hollol ddiystyr o'r rhwystrau a'r gwrthwynebiadau oedd ar ei ffordd â phe buasai heb na gweled na chlywed dim. Yn debyg fel pe meddylid am fam dirion, yn clywed fod ei phlentyn bach wedi cyfarfod â damwain ddifrifol ar yr heol, ac wedi ei gymeryd i un o glafdai y ddinas. Fe frysiai y fam, druan, yno yn ei dychryn a'i chyffro; a phe gofynid iddi, beth a welodd acaglywodd hi ary ffordd, featebai na welodd ac na chlywodd hi neb nadim; a hyny am fodei phryderynnghylch ei phlentyn hoff wedi ei gwneud hi yn ddall ac yn fyddar i bawb a phobpeth arall. Cyffelyb i hyn oedd profiad ein Harglwydd: "A bu pan gyflawnwyd y dyddiau y cymerid ef i fyny, yntau a roddes ei fryd ar fyned i Jerusalem," i ddyoddef a marw. Yr oedd ynym- ddangos fel pe buasai yn ddall, ac heb weled y perygl yr oedd yn IL