Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y DpsgedDdd " A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." ARDALOEDD HYNOD YN HANES EIN HENWAD. Ysgrií III.—"Neuaddlwyd." GAN Y PARCH. T. GWILYM EVANS, ABERAERON. ;/p^\AIF Neuaddlwyd yn nghanolbarth Ceredigion, ar odredyffryn íẅ^ Aeron, o fewn dwy filldir a haner i dref Aberaeron. Y mae '**=^ y llanerchhon yn un o'r rhai mwyaf difyr a pharadwysaidd yn y dywysogaeth. Trwy ei chanol rhed afon risialaidd Aeron, dau tuvr hon a addurnir gan goedwigoedd heirdd a pherllanau íîrwyth- lawn. Hyd yn hyn ni thorwyd ar dawelwch tangnefeddus yr ardal gan chwibanogl gyffrous y gerbydres, ac ni lychwinwyd tegwch ei broyddgan fwgunrhyw weithfa na glofa. Ffermwyr ydynt y rhan fwyaf o'r trigolion, y rhai a amaethant eu tir yn o debyg ag y gwelsant eu tadau a'u teidiau yn gwneud o'u blaen; ond, fel y gor- fodir hwynt, gan absenoldeb "dwylaw," i fabwysiadu ychwaneg o beirianau amaethyddol ar eu tyddynod. Mid yw y dirwasgiad a deimlir oherwydd ymadawiad llafurwyr â'r parthau gwledií:. yn golled ddigymysg i amaethyddiaeth, s;an fod y ffermwyr, mewn canlyniad, o dan orfodaeth i ddyfeisio dulliau mwy scientific o am- aethu, a thrwy hyny cynyrchir yn radtìol ddosbarth uwch o amaeth- wyr yn y wlàd. Ond er mor swynol ei hamgylchoedd, ac er mor ffrwythlawn ei daear, nid hyn sydd wedi gosod enwogrwydd ar Neuaddlwyd; eithr ei chysylltiad â chrefydd efengylaidd, adgoiìon sanctaidd y Ue, a thraddodiadau gogoneddus yr eglwys sydd wedi peri fod swyn an- rhaethol yn ei henw i bawb a gymerant ddyddordeb yn hanes Teyrnas y Gwaredwr. "Gogoneddus bethau a ddywedir am danat ti, .... am Seion y dywedir, Y gwr a'r gwr a anwvd ynddi, a'r Goruchaf ei hun a'i sicrha hi. Yr Arglwydd a gyfrif panysgrifeno y bobl, eni hwn yno.'"' Gofynodd boneddwr un tro i wladwr yn ^icheldir Ysgotland, "Pa beth ydych yn dyfu yn yr ardal hon?" )"Tyfu dynion," oedd yr ateb. Cynyrch gwerthfawrocaf Neuadd- lwyd yw y cymeriadau urddasol a ffurfiwyd, a'r pregethwyr godidog a godwyd yno. Cymer yr addoldy ei enw oddiwrth y fferm ar ba un