Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsaedpdd: "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedì ei Uno.'" CYF. Newydd.—66. MAÍ, 1908. HenGyf-561. Y TEULU DEDWYDD. GAN Y DIWEDDAR BARCH. W. AMBROSE. "Gan alw i'm cof y ffydd ddiffuant sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy fam Eunice, a diarueu genyf eu bod ynot tithau hefyd." 2 TiM.i 5. MAE gan bob oes ei gwroniaid. Medd y ddiareb, "Yn mhob gwlad y megir glew." Ac onid gweddus galw i gôf yr hyn a wnaed ac a ddyoddef wyd ganddynt yn achos cyfiawnder? Y mae colofnau hardd yn nodi coffadwr- iaethau enwogion Prydain yn St Paul's a Westminster Abbey. Ond bu yn dda genym droi ymaith o'r manau hyny i gladdfa Bunhill Fields, lle yr huna llwch cysegredig yr hen Buritaniaid —lle y gorwedda Bunyan, Tywysog y Breuddwydwyr; lle mae Dr. Watts, per ganiedydd Sion, a'i delyn wedi tewi; a lle mae Dr. Owen ddwfndreiddiol, fu yn treulio pedair ar ddeg o flynyddau uwch ben yr Epistol at yr Hebreaid, a gogoneddus lu o ddynion Duw a adawsant argrafî ar y byd, na ddileir tra fyddo y ddaear ar ei sylfeini. Ond beth pe cawsem rodio yn mhlith beddau Apostol- ion ac Efengylwyr boreu Cristionogaeth? Buasai ein camrau yn ysgafn, a'n calonau yn gyffrous wrth rodio uwchben gweddillion y deuddeg. Carasem hefyd weled beddau Silas a Barnabas, Luc a Titus; ond buasem yn pasio llawer bedd mewn brys i ganfod gor- weddfa Apostol y Cenhedloedd, a'i fab yn yr efengyl, Timotheus. Ond y mae yr hanes sanctaidd wedi taenu llen ar ddyddiau olaf y gwŷr hyn. Paham? efallai rhag ofn i'w beddau fod yn wrth- àdryriiau addoliad calon lygredig. Nid ydym yn meddwl i Satan ^eimlo awydd addoli byth ar ol pechu; ond ni syrthiodd dyn mor isel a hyny. Y mae addoli wedi ei adael yn ei natur gwympiedig. Deallodd y diafol hyny, a gwelodd ef y deuai dyn a Duw at eu gilydd, os na cheisid rhywbeth i foddhau y duedd addoliadol mewn ^yn. Dyma wreiddyn eilunaddoliaeth. Y mae yr Eglwys ^abaidd wedi amgylchu tir a môr i geisio creiriau i'w haddoli, chwilia holl diaddodiadau celwyddog y byd am feddau yr Apostol- a°n. Ond nid yw y Beibl yn cynwys dim i borthi y duedd hon.