Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsôedpdd "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno."' Cyf. Newydd.—70. MEDI, 1908. Hen Gyf.-565. DYLANWAD DA. GAN Y PARCH. OWEN EVANS, D.D. "Chwi yw halen y ddaear, &e. Chwi yw goleuni y byd. Dinaä a osodir ar fryn, ni ellir ei chuddio. Ac ni oleuant ganwyll a'i dodi dan lestr, ond mewn canhwyllbren, a hi a oleua i bawb sydd yn y tŷ. Llewyrched felly ei«h goleuni gerbron dynion, fel y gwelont eieh gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd."—Matthew v. 13—16. [AE ein Harglwydd yn y geiriau hyn yn cymharu ei bobl i ddau beth adnabyddus a defnyddiol iawn, sef halen a goleuni. Mae halen, er yn un o'r pethau mwyaf cyffredin a rhadlawn, eto yn un o'r pethau mwyaf anhebgorol a gwerthfawr. Mae yn fwy gwerthfawr, ar ryw olwg, nag aur pur; oblegyd fe allai y byd fyw heb aur ond nid heb halen; ac felly mewn rhai gwledydd, líe mae halen yn brin, y mae genym hanes am ddyn- ion yn gwerthu eu plant a'u perthynasau agosaf am ddyrnaid o halen. Ond eithriad trwy drugaredd ydy w fod halen yn brin; eithr o'r tu arall, y mae digonedd o hono i'w gael fel rheol yn mhob gwlad, a hyny hefyd am bris isel; ac y mae gofal a daioni yr Arglwydd i'w weled yn amlwg yn ei waith yn darparu y fath gyf- lawnder o haien ar gyfer trigolion gwahanol wledydd y ddaear. Mae mynyddoedd a mwngloddiau mawrion o hono mewn rhai manau, megys yn Hungary a Poland, &c; ac y mae mwngloddiau halen Poland yn mysg rhyfeddodau penaf y byd. Fe ddywedir fod yno bentrefi tan-ddaearol yn y mwngloddiau hyny, a llawer o bobl yn byw ynddynt am eu hoes, ac fe ddywedir, yn mhellach, fod yno ffrwd gref o ddwfr croew, digonol at wasanaeth y trigolion, yn ihedeg dan y ddaear o ganol y mwngloddiau halen! Wrth gymharu ei ddysgyblioni halen a goleuni y maey Gwaredwr yn arwyddo fod ei bobl i fod o wasanaeth a defnyddioldeb mawr i'r byd, trwy ddylanwadu yn dda ar eraill. A dyna y mater sydd yQ yr adnodau sydd genym dan sylw yw—Dylanwad Da. Mae gan bawb ryw gymaint o ddylanwad ar eraill; ac y mae amryw bethau yn ychwanegu at ddylanwad dynion, ac yn peri fod gan rai lawer mwy o ddylanwad nag eraill; ac yn mysg y pethau sydd yn I B