Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsgedpdd "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno.'" CYF. Newydd.—75. CHWEFROR, 1909. Hen GYF.-570. ATEBIAD GWEDDIAU. GAN Y PARCH. B. DAVIES, D.D., CASTELLNEW VDD EMLYN. ;HYDD yr Ysgrythyrau le amlwg i weddi, a rhydd hanes dynoliaeth le amlwg i weddio. Llais ymdeimlad o angen yw gweddi, a pha bwysicaf y byddo yr angen, .pwysicaf oll yw y weddi. Y mae gan bob yrndeimlad o angen gyfrwng mynegiant, ac y mae y cyfrwng nid yn unig yn íynegiant o'r angen, ond hefyd yn gyfaddas i gyrhaedd yr hyn a'i diwalla. Gwyddom nad yw pob angen yn cael mynegiant, ac nid oes eisiau prawf cryfach o ddylanwad creulawn pechod ar y meddwl, na'i fod yn ceisio atal llef ei angen dyfnaf. Y mae myn- egu angen yn rhyddhad i'r anghenus, fel y mae wylo yn ysgafnhad ac yn rhyddhad i'r hiraethus. Nid oes cyfartaledd bob amser rhwng geiriau dyn â'i deimlad, mwy nag sydd rhwng rhoddion dyn â'i amgylchiadau. Gall ein geiriau fod yn gryfach na'n teimladau, yn amgylchiadau cyffredin bywyd. Yr oedd yr Iuddewon yn talu i ddynion am wylo mewn claddedigaeth.au, a'r swrn a delid oedd yn penderfynu nifer y dagrau a gollid. Yr oedd y dynion a fedrai wylo o dan amodau felly, yn anghymhwyso eu hunain i deimio mewn cyfyngderau. Y mae gwisgo arwyddion teimladau cysegredig pan hebddynt, yn anghymhwyso y meddwl i deimlo yn briodoi yn nghanol amgylchiadau pwysig bywyd; ac y mae cenhadaeth uchaf yr amgylchiadau hyny yn troi yn fethiant. Y mae gweddi yn fynegiant o deimlad sancteiddiaf calon, ac o sefyllfa meddwl. Y mae hi yn genadwri angen na ŵyr neb ei ddyfn- der ond Duw, ac yn Uef nad oes neb yn deall ei hystyr ond Efe. \ mae Duw yn gweled gweddi yngystal â'i chlywed, yn deali dymuniadau anweledig,am ci fod/yn deall anghenion dyn. Gwahaniaetha anghen- ion yn eu natur, ac felly mewn graddau; gellir cuddio rhai yn hwy nag eraill. Pa agosaf i'r bywyd y byddo yr hyn y mae dyn mewn angen o hono, anhawddaf oll yw ei guddio. Pwy fedr guddio vm- deimlad o angen hanfodion bywyd; ac onid yn yr ymdeimiaG o r angen y mae dvogelwch y bywyd. Gwybodaeth o berygl sydd yn