Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsaedpdd "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyf. Newydd.—79.] MEHEFIN, 1909. [Hen Gvf.-574. DUWINYDDIAETH YR ÂPOSTOL PAUL. GAN Y PARCH J. CHARLES, DINBTCH. Ysgrif VI. CADWEDIGAETH O RAS TRWY FFYDD. t YLA5WN ddyweyd yn gynt fod cynydd a dadblygiad yn amlwg yn nysgeidiaeth dduwinyddol yr Apostol Paul. Mae Sabatier, G. B. Stephens, ac eraill, wedi ysgrifenu iLjfcM' yn rhagorol ar y pen hwn. Dosberthir ei ddysgeidiaeth „ri chyfnod. Yn y cyfnod cyntaf o'i fywyd cyhoeddus'y lleolir ei ddau Epistol at y Thesaloniaid, a'r rhan fwyaf o hanes ei deithiau cenhadol a phregethwrol a gofnodir yn llyfr yr Actau. Sylweddei bregethau yr adeg yma oedd ffeithiau mawrion marwolaeth ac adgyfodiad Crist. Yr oedd yn egluro, wrth reswm, arwyddocad y fîeithiau hyn, ond nid oedd hyd yn hyn, wedi rhoddi ffurf athraw- iaethol iddynt. Yn yr ail gyfnod y gosodir y ddau Spistol at y Corinthiaid, yr Epistol at y Rhufeiniaid, a'r Epistol at y Galat- iaid—pedwar Epistol yn ol barn y beirniaid goreu sydd yn dwyn delw ddiamheuol yr Apostol Paul. Cymer y ddau olaf a nodwyd agwedd ddadleuol, yn y rhai y dinystrir syniadau y gau-athrawon Iuddewig, ac y gosodir allan gyda grym anghydmarol, athrawiaeth fawr cyfìawnhad trwy ffydd. Yn y cyfnod olaf o'i hanes yr ysgrif- enodd yr Epistolau at y Philippiaid, y Colossiaid, yr Ephesiaid, &c. Yn y rhai olaf hyn y ceir profiad addfed yr Apostol, ac y traetha yn rymus, yn helaeth a rhydd, am olud ac ardderchogrwydd trefn gras. Ond tra yn cydnabod cynydd yn ei wybodaeth, a dadblyg- iad yn ei brofìad, ni newidiodd ei farn am unrhyw wirionedd syl- faenol, fel y tybia rhai ei fod wedi newid ei farn ar athrawiaeth adgyfodiad y meirw. Derbyniodd ei genadwri yn uniongyrchol gan Iesu Grist ei hun, ac ni bu yn ei feddwl y petrusder Ueiaf yn ei chylch. Ond yr oedd eisiau i ddyn o dalent, dysgeidiaeth, ac athrylith yr Apostol Paul fyfyrio yn y Coleg yn Arabia am dair i dri