Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsaedpdd "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno.' Cyf. Newydd.—82.] MEDI, 1909. [Hen Gyf.-577. CERDDI GWAS YR ARGLWYDD. G\N Y PARCH. D. TYSSIL EVANS, M.A.,B.SC, COLEG Y BREFYSGOL. CAERDYDD. Y Bedwaredd Gerdd—Esaiah lii. 13;—liii. 12. RTH agoshau at yr olaf o gerddi gwas yr Arglwydd, raae yn naturiol i ni deimlo yn wylaidd ac ofnus. Dyma un o berlau yr Hen Destament, îe, un o berlau llenyddiaeth y byd. Mae mwy o fyfyrio wedi bod ar yr adran hon na nemawr un gyfran o'r Beibl. Gellir cyfrif am hyn i raddau o herwydd yr anhawsderau sydd yn gysylltiedig â'r iaith, yr arddull a'r cynwysiad; ac yn enwedig o herwydd y darluniad byw a geir yma o ddarostyngiad a dyoddefaint, condemniad a marwolaeth, buddugoliaeth a dylanwad Iesu Grist. Mae yr Iuddew a'r Cenedl- ddyn, y Cristionogion, a'r rhai a wrthodant Gristionogaeth wedi bod yn ymladd yn galed ar y maes hwn. Nid oes adnod, na rhan o adnod, nad yw yn dwyn olion brwydrau lawer, ac y mae yr ym- rafael heddyw mor awchus ag erioed. Yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, mae y benod hon, a'r cerddi eraill, wedi cael sylw anghyffredin, ac nid oes dim tebyg i gytundeb a chyd-ddealldwriaeth yn yr ymyl—ac o amgylch y bedwaredd gerdd y mae y frwydr yn boethaf. Daw yr un cwestiynau i'r maes â chyda'r cerddi eraill, pwy yw y gwas, ai y genedl gyfan, neu gyfran o honi? ac os cyfran, ai y proffwydi, neu yr oll o'r bobl grediniol ac ufudd i orchymynion Duw—neu a gyf- eirir yma at berson unigol, ac os felly, at bwy? at rywun yn y gorffenol, neu un o gydoeswyr y proffwyd, neu un sydd i synu y dyfodol drwy ei ymostyngiad a'i ddyrchafiad. Nis gallwn yn yr ysgrif hon ond taflu cip-olwg ar y cynwysiad, a'r gwahanol bynciau y dadleuir yn eu cylch. Gosodir y ddaubrif beth yn y gerdd gyferbyn â'u gilyddyn nhair adnod olaf y benod lii., sef darostyngiad isel, a dyrchafiad rhyf- «eddol y gwas. IB