Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

"A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." *^CyíTnewydd^L IONAWR, 1903. Hkn Gyf.—§0Í. SYNIAD LL'YWODRAETHOL EFENGYL IOAN.* GAN Y PRIFATHRAW A. M. FAIRBAIRN, D.D., L.L.D. : (Ioan i. 18; xiv. 8, g.) N y naill o'r testynau hyn ni gawn grynodeb o gynwys y rhagarweiniad, ac yn y lla.ll foes-ystyr yr hanes. Mae y cyntaf, mewn geiriau brwd a phendant, yn mynegi drychfeddyliau mor aruchel a dylanwadol, fel nas gall meddwl ymresymu yn synwyrol yn eu cylch heb eu cuddio dan ymadroddion oer a chyffredinol; dengys yr ail, drwy gyfrwng dynion byw, y modd y gall y drychfeddyliau hyn, wedi eu personoli yn bri- odol, foddloni y galon ac ateb ei holiadau caletaf. Yn y rhag- arweiniad gosodir y pwn'c gerbron, yn yr hanes rhoddir yr eglurhad arno. fHeb yr hanes ni byddai y rhagarweiniad amgen na breuddwyd gwyllt heb ddim yn neiílduol yn ei athroniaeth na'i dermau: ac heb y rhagarweiniad ni byddai yr hanes ond darn o fywgraffiad yn meddu personoliaeth brydferth yn ganolbwynt iddo, ond gyda chylchfyd o ddigwyddiadau anghredadwy. Anghenrhaid yw cyfuno y ddau cyn y rhydd yr efengyl i'r enaid ffrydiad o fiwsig nas gall beidio ei wrando. Eto, nid yw cyfuno y ddau yn ddim mwy na'r dull hwnw o esboniö a * Cyhoeddir yr ysgrif hon yn y Dysgedydd tnvy garíiatàd caredig yr awdwr, a chylioeddwyr yr Expositor. Dichon y teimla amhell ddarllenydd, oherwydd neillduolrwydd arddull yr awdwr dysgedig, fod rhai hrawddegau yriddi dipyn yn aneglur ar yr olwg gyntaf, ond fe dâl yr erthygl yn dda am ei darllen yn hwyllog ac yn ystyriol fwy nag unwaith; a chredwn y mwynheir ac y gwertlifawr- ogir hi gan 'ddosbarth lluosog o'n darllenwyr. Mah i felinydd o Edinburgh yw Dr. Fairbairn. Ganwyd ef Tach. 4ydd, 1838, ac felly y mae neŵydd gyrhaedd ei bedair blwydd a thriugain oed. Derbyniodd ei addysg yn Mhrifysgolion Edin- burgh a Berlin. Ordeiniwyd ef yn weinidog yr eglwys Annibynol yn Bathgate, un o drefydd bychain Ysgotland, yn y flwyddyn 1860. DewisAA^yd ef yn Brifathraw Coleg Airdale, yn swydd York, yn y flwyddyn 1883. Agorwyd Coleg Mansfield Rhydychain, yn 1886, a phenodwyd Dr. Fairbairn yn Brifathraw. Ystyrir ef yn Un o'r duwinyddion m^vyaf dysgedig a galluog sydd yn awr yn fyw.