Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

"A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyp. Newydd.— 6. MEHEFIN, 1903. Hen Gyf.—504. f b% TANGNEFEDD DÜW. GAN Y PARCHEDIG HENRY GRIFFITH, F.G.S., GYNT PRIFATHRAW COLEG ABERHONDDU. {Parhad). [R YDYM YN EDRYCH ATO ETO AM HEDDWCH CALON, O DAN WASGFA ANHAWSDERAU BYDOL. Ymddarostyngwch i'w ofal Ef, ac Efe a'ch ceidw chwí , — — rhag cael eich llethu gan eich pryderon bydol; Efe a'ch ^ysg chwi i fod yn llonydd, ac i fwrw eich gofal arno Ef mewn tawelwch a hyder, gan gofio pwy sydd Dduw; ac yn fwyfwy, Efe a ^fna i chwi fod yn ddedwydd yn yr ystyriaeth o'i Ragluniaeth, íel ^iddo un rhy ddoeth i gyfeiliorni, a rhy dda i fod yn angharedig. *U addewir i ni gael dianc rhag cystudd yn hollol, neu siomedigaeth, neu drallod calon; ond addewir, os tafìwn ni ein hollofal ar Dduw, P.a roddir arnom byth fwy nas gallwn ei ddwyn—a'i ddwyn gyda uesâd os nad gyda llawenydd. Gallwn gael yfed dyfroedd chwerw- e^> ond ni fydd dim gwenwyn yn y cwpan. Gall iechyd fethu, ai Ranlyn gan fisoedd hirion neu flynyddoedd o boenau, gwendid, a9 annefnyddioldeb ymddangosiadol. Gall cymdeithion y darfu i Ql ymddiried ynddynt a'u caru, ein gadael, neu ein bradychu ni, §an larpio hyd yn nod linynau ein calonau gan eu hangharedig- ^Wydd! Gall ein cymeriadau gael eu deifio gan athrod, neueu cam- ^dangos gan ragfarn neu genfìgen, fel ag i ddwyn arnom warth annileadwy neu erledigaeth, ie, hyd at angau, fel y dangosir yn hanes miloedd o ferthyron, o'r rhai nad oedd y byd ddim yn deil- Wng. Gall ein heiddo, pa un ai llawer ynte ychydig a fyddo, Syrneryd ei adenydd ac ehedeg ymaith. Gall y Caldeaid ein hys- beiho ni o'n hanifeiliaid, a'r corwynt o'r anialwch ddymchwel yn anadferol ein hanturiaethau mwyaf hyderus. Gall tân losgi i fyny gynwys ein tai, a gall i fethiant annisgwyliadwy eraill, yn y rhai yr °edd genym ymddiried, daflu ein hamgylchiadau i ddyryswch, ac yn rnron ein llanw âg anobaith. Gall cydymgeisiau anocheladwy P^snach yn nghanol poblogaeth ddirwasgol, beiddgarwch anystyr- 101 cystadleuwyr, gallu hysbyddol cyfalaf a safle, a'r çostau cyflym-