Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsôedpdd "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." YR EGLWYS A'R OES. * GAN Y PARCH. OWEN EVÀNS, D.D. -^JNWYL FRODYR, S^^Bj Yr wyf yn teimlo mai fy nyledswydd gyntaf yma heddyw ■ m^ffl ydyw cyflwyno i chwi fy niolchgarwch gwresocaf a mwyaf . S^^l diffuant, am yr anrhydedd a osodasoch arnaf, trwy fy ethol 1 fod yn Llywydd y Cyngrair hwn, am y flwyddyn sydd yn awr yn terfynu. Fe ddaeth yr anrhydedd hwn i'm rhan heb i mi erioed ei ddysgwyl na'i ddymuno; a phan yr hysbyswyd fi gyntaf, gan eich P^rchus Ysgrifenydd, fy mod wedi fy ethol i'r swydd, teimlwn awydd Cryf i wrthod yr anrhydedd, a hyny nid am fy mod mewn un modd yn diystyru nac yn dibrisio eich caredigrwydd; ond am fy mod yn llawn ymwybodol o'm hanallu i lenwi y swydd bwysig ac anrhydeddus yr peddych wedi bod mor garedig a'm gosod ynddi, gyda boddlonrwydd 1 mi fy hun, na chydag unrhyw fudd na gwasanaeth i chwithau. Ond ^Wasgai yr Ysgrifenydd arnaf i'w derbyn, trwy ddweyd y buasai fy ngwaith yn ei gwrthod yn taflu y Pwyllgor i dipyn o drafferth, a thrwy sicrhau i mi hefyd na byddai dyledswyddau y swydd ond cym- harol ysgafn. Ond ar yr un pryd, rhoddai ar ddeall i mi y dysgwylid J"ftyw dipyn o anerchiad genyf wrth roddi y gadair i fyny yny cyfarfod hv^n heddyw. Bu fy meddwl am beth amser mewn mesur o betrusder g-yda gfolwg ar destun i wneud ychydig sylwadau arno. A'r mater y tueddwyd fy roeddwl o'r diwedd i geisio galw eich sylw yn frysiog ato yw— Yr Eglwys a'r Oes. Mae i'r gair Eglwys, fel y gwyddom oll, wahanol ystyron yn yr ^sgrythyrau sanctaidd. Ond nid yw y Testament Newydd byth yn S^lw holl drigolion talaeth neu deyrnas yn gyffredinol, beth bynag fyddo eu syniadau a'u bucheddau, yn Eglwys. Nid Eglwys Galatia, °eu Eglwys Asia; ond eglwysi Galatia, a'r saith egltoys sydd yn *Anerchiad a draddodwyd gan y Llywydd yng Nghyfarfod Blynyddol Cyngrair f-glwysi Rhyddion Gogledd Cymru, yn Colwyn Bay, Ebrill 39ain, 1903. Cyhoedd- lr yr Anerchiad ar gais y Gynadledd.