Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsaedpdd A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." SYNIADAU BOREUOL YR HEBREAID AM DDUW. GAN Y PARCH. PROFF. J. M. DAYIES, M.A., BANGOR. [Parhad.) |AE y sylwadau a wnaed hyd yma yn gorphwys wrth reswm ar y dybiaeth fod y traddodiadau am y cyfnod patriarchaidd yn seilîedigf ar ffeithiau. Nidwyf yn anghofio nac yn dymuno anwybyddu y gwrthddadleuon a godir yn erbyn cymeryd cymaint a hyn yn ganiataol. Credaf, fodd bynag, fod ffeithiau diamheuol, a gydnabyddir fel y cyfryw, yn nglŷn â'r cyfnod sydd yn dilyn yn myned yn mhell i gadarnhau y dybiaeth ac i gyfarfod â'r hyn a ddywedir yn ei herbyn. Y mae hyd y nod y beirn- iaìd hyny na fynant fod hanes y patriarchiaid yn ddim amgen na ffug- chwedl o'r dechreu i'r diwedd, yn addef fod y prif ddygwyddiadau a briodolir i amser Moses, megis y waredigaeth o'r Aifft, yn fteithiau hanesyddol sicr. "The people had some knowledge of Jehovah, some faith in Him, or His name would not have awakened them toreligious or national life ...........The patriarchal age, with its knowledge of God, is not altogether a shadow, otherwise the histcry of the exodus Would be a riddle."—Prof. A. B. Davidson. "Unless we are willing to give up the mission of Moses and the Prophetic idea of him, the patriarchal period, especially that of Abraham, must be regarded as the necessary presupposition for the Mosaic period. The religious position of Moses stands before us un- fupported and incomprehensible unless we believe the tradition accord- 'ng to which he appealed to the God of their fathers. Moses would scarcely have made his way amongst his people if he had come in the name of a strange and hitherto unheard of God."—Dr. Kittel. "Moses musthave found the Hebrew nation already in possession of views of religion and morals fitted to serve as the basis of his work. He must have found already prevalent the belief in a God who was bound to His people by a special covenant."— Dr. Schultz. Amser a ballai i mi fanylu ar y cydgyfarfyddiad rhagluniaethol yn hanes Israel yn nechreu y cyfnocl hwn o amgylchiadau pwysig oedd ÎE