Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y Dpsaedpdd "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." PREGETHU YR EFENGYL. GAN Y PARCH. OWEN DAVIES, D.D., CAERNARFON. |ID ein hamcan yn hyn o ysgrií ydyw rhoddi darluniad llawn o'r ordinhad o bregethu yr efengyl, ond yn hytrach galw sylw at y pwnc yn rhai o'r agweddau y mae sefyllfa bresenol crefydd yn ein gwlad yn ymddangos yn galw a*n hyny. I» Yr hyn ydyw Pregethu yr Efengyl. I. Yr Efengyl. Wrth yr efengyl yr ydym i olygu, trefn y netoedd i gyfiawnhau a sancteiddio pechaduriaid. Darpariaeth E>uw ydy w, yn ei drugaredd, ei allu, a'i ddoethingb, i achub yr euog. Mae yr efengyl yn gynwysedig yn ngrwaith y Tad yn arfaethu, yn cynllunio, ac yn paratoi; gwaith y Mab yn cario allan y cynllun yn y cyflawniad o'r dair swydd o Broffwyd, Offeiriad, a Brenin; a gwaith yr Ysbryd Glan yn cymhwyso y cyfan at y gwrthddrychau yn adgenhedliad a sancteiddiad pechaduriaid. Canolbwnc yr efengyl ydyw "Iesu Grist, a hwnw wedi ei groes- noeho." Y pegwn o amgylch pa un y mae yr holl efengyl yn troí ydyw ymgnawdoliad, marwolaeth, ac adgyfodiad Iesu Grist; Efe fel rhodd y Tad, ac Efe fel anfonydd yr Ysbryd Glan, yw hanfod Cristionogaeth. Aj2. Pregethu yr Efengyl. Mae dau air yn cael eu cyfieithu j'r gair '•pregethu" yn y Testament Newydd. Mae un o honynt, yr hwn a geir yn Marc xvi. 15, a lliaws o fanau ereill, yn golygu cyhoeddi, gwneud yn hysbys, a hyny yn annibynol ar natur y peth a gyhoeddir. Mae y llall, yr hwn a welir yn Luc xvi. 16, a llawer 0 fanau ereill, yn golygu cyhoeddi newydd da; cyfieithir ef y rhan Y»ychaf â'r ymadrodd "preg( thu yr efengyl,"—cyhoeddi y newydd !jja< Mae amryw einau ereill yn cael eu harfer yn y Testament Newydd am wahanolranau yr addysg Gristionogol, megys "dysgu," (Act, v. 42,) "athrawiaethu," (Rhuf. xii. 7,) "cynghori," (Rhuf. xii. 8») "adeiladu," (1 Cor. xiv. 5,) "rhybuddio " "dyddanu," (1 Thes. v* 14.) Mae y gair pregethu, fel yr arferir ef yn ein dyddiau ni, yn cynwys yr hoil bethauhyn; yr oll sydd angenrheidiol, yn ol y ÍL 'U