Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. CH W EFROR, 1847 COFIANTMRS, FRANCES JONES. DRYSGOLGOCH, PLWYF CYNWIL, SIR G AERFYUIJDI N. "Yn Nghrist Iesu nid oes na gwrryw na benyw." Mae dyledswyddau a breiniau crefydd yn perthynu yn gyfartal i'r ddau ry w; ac er fod gwahaniaeth yn rhodfeydd duwioldeb gwrrywaidd a benywaidd, cyfatebol i'r gwahaniaeth nodweddiadol rhyngddynt, gallant y naill fel y llall, yn eu cylchoedd priodol, ogoneddu Duw, arddangos rhinweddau Cristionogol, gwasanaethu eu cenhedlaeth, a chyfran- ogi o fendithion a gobeithion yr efengyl. Yn mhlith diwygiadau pwysfawryr ugain mlynedd diweddaf, nid oes un yn fwy nodedig na chynnyddol ddadblygiad ac amlygiad o gymeriad a defnyddioldeb benywaidd. Nid oes cymaint, mewn unrhyw gyfnod blaenorol, wedi ei gy- hoeddi o barth i'r rhyw fenywaidd—eu haddysgiad, eu dylanwad, a'u safle mewn cymdeithas. Mae eu hawliau a'u gallu- ogrwydd wedi eu deall yn well, a'u hegluro yn helaethach; mae eu cylchoedd priodol, a'u cyfleusderau neillduol i fod yn ddefnyddiol, wedi eu darlunio yn fwy penodol ac eglur; maent yn fwy cyffredinol wedi cael eu cyffroi i weithredu o dan yr argyhoeddiad o'u cyfrifoliaeth ; ac y maent i raddau wedi dysgu a chyd- nabod y buddiohleb o ymdrechion unol a rheolaidd. Dylid parhaus arfer modd- ion i'w darbwyllo o'u pwysigrwydd mewn cymdeithas, i effeithio eu rneithriniad moesol a meddyliol, ac i ddyrchafu ac urddasoli eu cymeriad. Gellir mabwyso dwy ffordd i'r dybenion hyn ; un ydyw, cyffroi i hunanddiwylliad trwy ddadgudd- iad o ffaeleddau; a'r llall ydyw, annog i ymgyrhaeddiad am rinweddau a rhagor- iaethau trwy arddangosiad o esiamplau canmoladwy. Prif amcan bywgraffiadau benywaidd ydyw cyflawni y dybenion uchod yn y llwybr olaf. Yn y cyfryw gyfunsoddiadau, adroddir profíad ac ymarferiad duwioldebdeallusac ysgryth- yrol, ac eglurir, trwy grybwylliad o'r hyn a weithredol gyrhaeddwyd, beth all menyw fod o dan ddylanwad santeiddiol crefydd enwog. Heb ofni haeddu y cyhuddiad o weniaith na gormodiaith, haerwn fod cymeriad y ddiweddar Mrs. Jones o Drysgolgoch, yn arddangos cryn- odeb dysglaer o ragoriaethau Cristion- ogol, yn cynnysgaethu cynllun teilwng o efelychiad, ac yn adlewyrchu gogon- iant dwyfol ras. Mrs. Frances Jones ydoedd chweched plentyn, ac ail ferch, Edward, a France* James, Pontygafel, yn mhlwyf Llan- fyrnach, sir Benfro. Ganwyd hi Ionawr 20, 1787. Eirhienioeddyntdrachyfrifol a chymeradwy. Symudwyd ei thad trwy farwolaeth, pan nad oedd hi ond unar- ddeg oed ; teimlodd yn ddwys yr ymddi- fadiad galarus hwn, ond cyflawnwyd y golled i raddau helaelh trwy addysgiadau ac arolygiad mam synhwyrol, dduwiol, a theimladol, yr hon a ofalai yn dyner am ei phlant, ac a ymdrechai yn ffyddlon i'w hyfforddi yn ffyrdd daionus a hyfryd- lawn yr Arglwydd. Ymunodd á'r eglwys yn Glandwr, Mai 1, 1808, yr hon oedd y pryd hyny dan ofal gweinidogaethol y Parch. William Griffiths, coffadwriaeth yr hwn oedd yn anwyl a pharchus ganddi trwy ei hoes. Mwynhaodd y fraint an- mhrisiadwy o gael eistedd yn ei mebyd a'i hieuenctyd o dan weinidogaeth addysg- iadol a sylweddol, y fath ag oedd yn arbenigol addasedig i ffurfio archwaeth bur, ac i gynhyrfu awydd ac ymgais am wybodaeth ysgrythyrol, a golygiadau eglur ar ddwyfol wirioneddau: ac ni fethodd i wneuthur ei hargraffiadau priodol ar feddwl gwrthddrych ein Cof- iant. Meh. 1G, 1821, ymbriododd á Mr. John Jones, Drysgolgoch, plwyf Cynwil, sir Gaerfyrddin: symudodd yn ganlynol i'r lle uchod, a daeth yn aelod