Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: A'R HWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR." fr |ubbcfccoit a (^folafr %x Jtbbítoia. (gan y parch. l. probert, porthmadog). I. GALWAD ABRAHAM. Gan fod )rr addewid am "had y wraig," a ddaetli megys toriad gwawr arfyd euoga thrallodus, wedi ei rhoddi yn addewid gyffredinol, ym- gyfyd jn naturiol y goíyniad, paham y cafodd ei neillduoli i Abraham yn mhen dwy fil o flynyddoedd ar ol ei ehyhoeddiad cyntaf? Atebir ef trwy ddweyd í'ocì yr Arglwydd wedi rhoddi galwad neillduol i Abraham, er mwyn sicrhau pobl i ymddwyn yn fwy teilwng o freint- iau y byd newydd, nag a wnaeth y cynddiluwiaid o freintiau y cynfyd. Ymif'urfia hanes dadblygiad trefn gras yn wahanol gyfnodau mawrion, a cheir y naill gyfnod o hyd yn tra rhagori ar ei ragflaenydd. Fe gymerodd crefydd safle llawer uwch ar ol y diluw, nag a feddianid ganddi yn yr hen fyd. Bernir yn gyffredin, oddiwrth yr hyn a ddy- wedir yn llyfr Genesis am Cain ac Abel yn dwyn eu hoffrymau "i'r Arglwydd," a Chain yn myned "allan o ŵydd yr Arglwydd," fod Eden wedi parhau yn gyrchfan addolwyr ati am ganrifoedd, os nad yn mlaen i ddyddiau Noah. Os oedd lleoliaeth grefyddol felly yn yr hen fyd, gellir dweyd fod mwy o ryddid yn y byd newydd, oblegid darllenir am Noah yn cyflwyno addoliad i'r Arglwydd yn y man lle y dygwyddodd yt arch sefyll, a'r Arglwydd yn dilyn ei wasanaeth. Hefyd, fel dyn y cafodd Adda feddiant o'r hen fyd i'w lywodraethu, a'i ddarostwng; ond fel credadyn y cafodd Noah y byd newydd, fel y dywed yr Apostol, "Ac a wnaed yn etifedd y cyfìawnder sydd o fíÿdd." Un o wobrau cyfiawnder ydyw y ddaear, a ffydd ydyw gwreiddyn cyfiawnder; felly, nid y dijn, ond y crcdadyn, sydd a gwir hawl i'r byd, Mat. xxiv. 22. Eto, yn ngorchfygiad Abel gyfiawn gan Cain, "yr hwn oedd o'r drwg," cafwyd awgrym fod llygredd i orch- fygu rhinwedd yn yr hen íÿd, yr hwn a aeth yn y diwedd mor ddrwg nes tynu barn Duw arno; ond yn nglŷn â'r trosedd cyntaf yn nheulu Noah, y troseddwr gafodd ddyoddef, "Melldigedig fyddo Canaan, gwas Chwefror, 1878. c