Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

• - Y DYSGEDYDD. a'r hwn yr unwyd "YR annibynwr." ■+***+■ êlgnn forflj gr J|lfoẃirga)ef{r. (gan y parch. w. jansen davies, newport). Yn eìn hysgrif gyntaf darfu ì nì geìsio gosod i lawr ychydig reolatl wrth ba rai i ddewis galwedigaeth. Yr ydym yn cymerycí yn ganiat- aol yn awr fod yr alwedigaeth wedi ei phenderfynu, a'r pwnc nesaf yw dangos y pwysigrwydd o lynu wrthi. Ond cyn ymdrin â'r mater hwn, carem alw sylw y darllenwyr ìeuainc at fawreddigrwydd ao urddasolrwydd bywyd, er anogaeth i osod y nôd yn uchel, ac i ym- gyflwyno eu holl alluoedd i'w gyrhaedd. Braint oruchel yw bywyd, ac y mae genym fodd fw wneud yn ddefnyddiol, ardderchog, a ded- wydd. Nìd oes dìm a gwell tuedd ynddo ì roddi tôn iachus ac amcan moesol uchel i fywyd na myfyrdod dwys uwchben dechreuad, diwedd, a dyben bodolaeth. Y mae ein bywyd wedì dyfod oddiwrth Dduw, ac mewn ystyr y mae yn ddwyfol. Gan eìn bod yn ddyledus iddo E£ am feddiant o hono, ìddo Ef y dylid ei ddefnyddio. Y mae Ef yn gwylio yn fanwl sut yr ydym yn gwario y trysor prisfawr hwn, Nid oes yr un tad naturiol yn cymeryd dyddordeb mor fawr a chyson yn ei blentyn ag y mae Duw yn gymeryd yn agorìad, diwylliad, a dad- blygiad eìch natur chwi. Y mae ef wedi gosod bywyd i raddau helaeth yn eich dwylaw oich hunaìn ; yr ydych chwi i gerfio o hono ddarlun prydferth neu hagr yn ol eìch dewisiad. Cofiwch hyn, y mae bywyd y peth y gwnewch chwi ef. Y mae ei ddull a'i reoleidd- iad yn ymddibynu ar eich ewyllys chwì, Nid ydych fel gwelltyn ar wyneb ífrwd gref, sydd yn cael ei gludo gan y dwfr fel y myno, nac fel plufyn o flaen y gwynt, sydd yn codi ac yn gostwng yn ol graddau yr awel. Md ydych yn greaduriaid dygwyddiad, ond y mae tufewn i chwi alluoedd fedrant blygu a llywodraethu pob peth daearoh Pen- derfynwch gyrhaedd yr hyn a ellwch a'r hyn a ddylech fod, a chyda chynorthwy Ehaglunìaeth Ddwyfol, byddwch yn sicr o oddiweddyd defnyddioldeb, anrhydedd, a dedwyddwch. Cofìwch hefyd nad yw bywyd ond dechreuad—diwedd yr hwn nis gellwch eì weled; ìe, meddai ysbrydoliaeth, nis daw byth. Gwnewch y presenol yn rhagymadrodd teìlwng i bregeth fawr y dyfodol. ìlrwyth naturiol yr hadau a deflir i'r tir yn y presenol, fydd cnwd difrifol y dyfodol. Hauwch fel y carech fedL Cylymwch y byd hwn a'r byd nesaf bob amser wrth eu gìlydd; yn y modd yma y fTurfiwch eich bywyd i foddlonrwydd Duw, i'ch Úwyddiant gwirioneddol eich hunain, ac i lesiant y byd. Ebeill, 1878. <»