Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." (GAN DR. TflOMAS, STOCEWELL.) CALEB MORRIS. Ganwyd Caleb Morris yn Parc~yd, wrth droed y Foel Drigam, swydd Benfro, Awst 5ed, 1800. Ei rieni oeddynt amaethwyr bychain, mewn amgylchiadau gweddol gysurus; yr oedd y ddau yn feddianol ar raddau helaeth o allu corff a meddwl. Tra yn ieuanc iawn amlygodd ef syched angerddol am wybodaeth, a chasai yn ddirfawr bob peth a dueddai i'w atal yn ei ymchwiliad am dani. 0 herwydd y duedd hon ynddo, cafodd well manteision addysg gan ei rieni, nag a fwynheid gan blant yn gyffredin yn y cyfif'elyb amgylchiadau. Pan yn fachgenyn ieuanc, anfonwyd ef i Hwlffordd, i ymbarotoi gogyfer â d'od yn gyfreithiwr. Ac yno y derbyniodd >r argraffiadau crefyddol hyny a benderfynasant ei ddyfodol. Traddododd ei bregeth gyntaf pan oddeutu pymtheg mlwydd oed, ac yn fuan drachefn derbyniwyd ef i Goleg Caerfyrddin—y pryd hwnw o dan lywyddiaeth y Parch. David Peters. Wedi treulio yno yn llawn yr amser gofynol, derbyniodd wahoddiad taer oddiwrth eglwys Narberth i fod yn weinidog arni. Cydsyniodd â'r cais, ac ordeiniwyd ef yn mis Ebrill, 1823. Llafuriodd yno am ychydig flynyddau gyda chymeradwyaeth a Uwyddiant mawr. Ymledodd ei glod fel pregethwr yn gyflym trwy'r wlad, ac ymofynid yn awchuá am ei wasanaeth i bob cyfeiriad. Gwahoddwyd ef i Lundain, a thraddododd ei bregethau cyntaf yno yn nghapelau Surrey a Craven, oddeutu y flwyddyn 1827. Yn Mai y flwyddyn hòno, derbyniodd alwad unfrydol oddiwrth eglwys Fetter Lane, i ddyfod yn gydweinidog â'r Parch. George Burder. Cydsyniodd yntau, a dechreuodd ar ei weinidogaeth yno ar y Sabbath, A^st 12fed, 1827. Cynaliwyd cyfar- fod ei sefydliad Medi 12fed, 18^, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. canlynol:—John Burnett, Cork; George Clayton, Walworth;, Dr. Fletcher, Stepney; a Dr. Winter, Carey Street. Oddeutu diwedd y flwyddyn 1830, bu yn beryglus glaf, yn ystod pa adeg gosodid hys- bysrwydd (bulletins) yn ddyddiol ar ddrysau y Testry i fynegu sefyllfa ei afìechyd, oblegid yr oedd cydymdeimlad ei gynulleidfa âg ef y pryd *Oyfieithedig gan y Parch. L. W., allan o Puljpit Memoriala--gwel Adolygiad ar Lyfrau, Mai, 1878. i • ■—• —- |