Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." (gan y parch. w. evans, aberaeron). " Pa faint mwy y bydd i waed Crist, yr hwn trwy yr Ysbryd tragwyddol a'i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro eich cydwybod chwi oddiwrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu y Duw byw?"—Heb. ix. 14. " Pa faint mwy " na gwaed teirw a geifr, a lludw anner, &c. Yr oedd gwaed y rhai hyny wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd yn santeidd- io i bureiddiad y cnawd. Yr oedd gwaed anifeiliaid yn effeithiol i wneud hyny. Nid oedd ond peth gwael, ac o ychydig werth, eto tebai y dyben i santeiddio y cnawd. Md peth hollol ddiwerth, ac heb ystyr yn ý byd iddo, oedd gwaed aberthau anifeilaidd. Yr oedd o osodiad Duw, ac yr oedd hy ny yn ei wneud yn rhywbeth, beth bynag am ei werth gwirioneddol. Yr oedd gradd o rinwedd ynddo, fel y dengys yr apostol yn y geiriau blaeaorol. Heblaw fod yr aberthau seremoniol yn adgoffaol a phortreiadol, yr oeddynt yn gwcithrcdol buro y cnawd; a mwy na hyny nis gaílasent wueud—nis gallasent gyrhaedd yr oll o ddyn, na'r rhan bwysicaf o hono. Halogrwydd ser- emoniol, drwy droseddu deddf seremoniol, a symudid ymaith drwy buredigaeth seremoniol. Yn y testun gofyna yr apostol, Pa faint mwy effeithiol yw gwaed Crist i buro y gydwybod oddiwrth weithredoedd meirwon, nag oedd y gwaed seremoniol i buro oddiwrth halogrwydd y cnawd? Mae y gof- yniad yn cynwys ei atebiad. Pa beth oedd rhinwedd ac effeithioldeb gwaed teirw a geifr, &c, i'w gyferbynu â rhinwedd gwaed Crist? Yr oedd gwerth a mawredd personol yn Nghrist—nid gwerth gosodedig. Nis gallasai gosodiad wneud peth meidrol yn anfeidrol, peth o ychydig werth yn werthfawr, ac aberthau anifeilaidd yn ddigon mawr a rhin- weddol i ateb y dybenion y mae aberth Crist yn wneud. Yr oedd gosodiad hefyd yn angenrheidiol, ac yn rhoddi mesur o werth mewn aberth. " Yr hwn trwy yr Ysbryd tragwyddol a'i höffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw," &c. Ymddengys mai wrth yr " Ysbryd tragwyddol" y golyga yr apostol yr Ysbryd Glan. Mae un rheswm dros dybied hyn yn y gair difai. Cyfeiria hyn at berffeithrwydd dynoliaeth, a pherffeithrwydd cymeriad yr Arglwydd Iesu Grist—yr oedd yn ber- ffaith ddyn, ac yn berffaith santaidd, yr hyn a'i galluogai ef i offrymu ei hun yn ddifai i Dduw. Yr oedd ei gymhwyso i hyn yn waith yr Mehefin, 1878. l ,