Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr," Ccrbbürìoit énfoûg. (G A N T A N Y M A 111 A N .). YSGRIF IV. "Pwy allai hwna fod, apha le y cyfarfyddasoin o'r blaen?" oeddynt yr ymholiadau a redai drwy feddwl Ludwig, tra y prysurai adref, gyda chalon grynedig, gan ei ofn o edliwiadau a cheryddon ei dad am aros mor hir allan; "eithr pwy bynag ydyw y mae yn ewyllysio y goreu i mi, ac yn fy ngharu; ac er mor unig ydwyf, teimlwyf fod genyf un cyfaill fodd bynag, ac ymdrechaf fy ngoreu i wneud ei gynghorion a bod yn deilwng o'i gydymdeimlad." Erbyn i'r bachgen gyrhaedd ty ei rieni yr oedd y lle yn ferw i gyd, ac yn llawn cynhwrf drwyddo; yr oedd ei dad wpdi cael ei daraw yn sydyn âg afiechyd peryglus a marwol. Yr oedd Ludwig yn ei garu bob amser er mor angharedig yr ymddygai ato, a phan sibrydwyd iddo y perygl yr oedd ei dad ynddo, rhuthrodd i'w ystafell, ac ymwthiodd heibio i'r doctor, ei frodyr, a'i fam wylofus, at erchwyn ei wely; gwel- odd ei dad ef yn dyfod i mewn, ac edrychai yn ddifrif-ddwys arno, ac ar eiliad taflai olwg ymofyngar ao arwyddocaolar ei fam; rhoddai hithau ei dwylaw plethedig ar ei mynwes a chyfodai ei golygon prudd a thrallodus tua'r nefoedd, a chyda dystawrwydd difrifol tystia ei diniweidrwydd a'i ffyddlondeb. Gyda hyny, taflai y tad freichiau a mynwes agored i gofleidio ei facligen, yr hwn a ymollyngai iddynt gyda gwaedd gyffröus, calon serchog a mabaidd, ag oedd bron ymdori. Er mai dyna yr ymgofleidiad cyntaf erioed o eiddo y tad a'r plentyn yna, eto, unwyd yn berfìaith ynddo galonau ag oeddynt wedi eu hir ysgar a'u gwahanu yn greulon a diachos oddiwrth eu gilydd; a chafodd y tad hamdden ddigon gan ei boenau i brofi a theimlo nad oedd e^ angharedigrwydd wedi dyeithrio dim ar serch ei blentyn tuag ato, a bod digon o ddyfnder yn nghariad calon serchog Beethoven i gladdu ac anghofio yr hyn a fu, fel nad oedd perygl i'r lledrithiad mwyaf an- elwig o hono ddyfod byth i'r golwg; a'r bachgen gauwyd allan mor hir o galon ei dad a anrhydeddwyd âg ymgofleidiad olaf y galon hòno cyu iddi beidio curo yn yr angeu. Breintiwyd Beethoven â'r addysg oedd yn gyífredin yn y dyddiau hyny, sef darllen, ysgrifenu, rhifyddu, ac ychydig o'r Lladin, eithr Medi, 1878.' R