Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr UNWYD "YR ANNIBYNWR." ŵofhtnt pní. I|ûmasi GWRAIG Y PARCH. R. THOMAS, ATHRAW DUWINYDDOL COLEG ANNIBYNOL Y BALA. (GAN Y PAIICIL MICHAEL D. JONE3, BALA). ]Stid oedd.Mrs. Thomas, fel ei phriod, y Parch. Eobert Thoruas, yn gymeriad cyhoeddus, ond yn yr ystyr y daeth Abigail yn gymeriad cylioeddus mewn cysylltiad â Dafydd, neu MairaMartha, agwragpdd eraill mewn cysylltiad â Christ. Grwrthwyneba rhai ysgrifenu cofiantau i bersonau anghyhoedd. Mae'r ysgrythyr wedi cofnodi rhinwedd- au lluaws o bersonau felly, ac wecìi dadymchwel barn y byd am ragoriaeth: "Y gogoniant a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy," meddai Crist. Yn nyddiau yr Arglwydd lesu Grist, yn mha le y mae i m chwilio am ddyn gwir ogoneddus? Buasai llawer un yn dweyd, Dyna ddyn gwir ogoneddus—Herod. Mae ganddo ei filwyr a'i balas; mae efe yn llywodraethwr Galilea, ac y mae efe yn fab i Herod Fawr. Buasai arall yn dweyd, Dyna ddyn gogoneddus—Pilat y Ehaglaw, a chynrychiolydd y llywodraeth Eufeinig, yr hwn oedd yn ílywodraethwr Judea. Buasai arall yn nodi un o'r archoffeiriaid yn ddyn gogoneddus, neu yr Ymerawdwr Ehufeinig, Augustus Csesar. Yn ngolwg y nefoedd, saer, a mab i saer, Iesu o Nazareth, oedd y dyn mwyaf gogoneddus ar y ddaear, ac y mae Iesu yn cyfranu y gogoniant a berthynai iddo i'w ddysgyblion. O'r gogoniant hwn y derbyniodd yr apostolion yn hel- aeth, ac a'u gwnaethpwyd yn ddeuddeg brenin i farnu deuddeg llwyth Israel. O'r un gogoniant y derbyniocld Mair Magdalen, aMair chwaer Lazarus, a Martha, a gwragedd eraill, yr hwn y mae Crist yn ei gyf- ranu i'w holl ddysgyblion. Yr oedd yn Mrs. Thomas lawer o'r rhin- weddau ag a nodir yn y gwragedd uchod, a'r un cariad at y Grwaredwr. Cyfranodd Iesu iddi, yn ddiau, lawer o'i ogoniant moesol, a'i ogoniant cyfìawnhaol, fel y credaf yn dcíiysgog ei bod wedi cyrhaedd y nefoedd, gwlad ag y mae pob bod gogoneddus drwy y greadigaeth wedi ei gasglu iddi. Yr cieddwn yn adnabod Mrs. Thomas yn dda iawn, nid yn unig am ei bod yn enedigol o Lanuwchlyn, hen gartref hoff boreu fy mywyd, ond hefyd yr oedd yn hynod adnabyddus o'm teulu, yn enwedig fy chwiorydd hynaf. Teimlai fy rhieni ddyddordeb maw.r ynddi,bron gymaint a phe buasai hi blentyn iddynt. Yr oedd hi yn eneth ieuanc Tachwedd, 1878. w