Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: A'R HWN YR UNWYD "YR ANNIBYjjWR." ■»'!■» $ ijm i*rMrT 1 (GAN y parch. william evans, aberaeron.) Ymddengys fod "y dyn pecliod" yn yr Epistol at y Thessaloniaid yr un âg "Anghrist" Epistol loan, ac yn myned dan yr enw "bwystfìl" yn llyfr y Datguddiad. Mae seiliau cedyrn i gredu mai y gallu Pab- aidd sydd mewn golwg yn y tri lle. Yn y ddau enw blaenaf, darlunir ef yn ei ífurf eglwysaidd neu ysbrydol, ac ynyr olaf yn ei ffurf wladoL Nid yw un enw yn ddigonol i'w ddesgrifio, am ei fod yn amrywiaetbol yn ei gyneddfau a'i ffurfìau. Darlunir ef mewn gwa'ianol enwau yn y rhif unigol. Mae hyn yn hanfodol i'r grefydd Babaidd, am ei bod yn terfynu mewn un person fel ei phen a'i chynrychiolydd. Mae yr unigol er hyny yn cynwys lluosogrwydd o'r un rLywogaeth, sef yr olyniaeth Babaidd. yr hon sydd yn gweithredu yn ol yr un rheol, ac oddiar yr un egwyddorion. Yn ol deddf sefydlog y Uabaeth mae pob Pab i fod yn gyffelyb i'w ragflaenydd a'i olynydd; nis < allant hyfforddio i wahaniaethu mewn dim, rhag peryglu eu hanffasledigaeth. Ni olygir wrth gymhwyso yr enw "dyn pechod" at ben yr Eglwys Bab- aidd, ei fod ef yn bersonol yn fwy pechadurus na neb arall o fewn ei chymundeb, ond ei fod yn cynrychioli y gyfundrefn grefyddol fwyaf twyllodrus a niweidiol yn y byd—yn cynrychioli gallu eglwysig nod- edig am ei uchelgais, ei draws-lywodraeth, ei ormes, a'r hwn sydd yn "llawn o enwau cabledd." Fel "Anghrist" gellir dweyd am dano ei fod yn personoli holl anghristiau yr oesau. "Yr awr hon," meddai Ioan, "y mae anghristiau lawer." "Chwi a glywsoch," meddai eilwaith, "y daw anghrist," sef un gorffolaeth o honynt oll. Pa gyfeiliornad sydd nad yw yr Eglwys Babaidd wedi ei fabwysiadu neu ei ganiatau? Mae hi yn ddigon llydan i gynwys pob peth gau—gau-grefydd, g&u-phü- osophy, a gau-athrawiaeth. Ỳr un peth angenrheidiol yn ei golwg hi yw cydnabod penogaeth, awdurdod. ac anffaeledigrwydd y Pab, derbyn nôd y bwystfil a'i addoli. Dywed yr Apostol am y "dyn pechod" ei fod yn giirthwi/nebu. Mae hyn yr un peth ag anghrist neu wrthgrist, un yn ymwthio i le Crist, ac yn ymarddelwi i'w awdurdod. Dywed y Pabyddion nas gall anghrist epistol Ioan fod yn gymhwysiadol at y Babaeth, am nad yw erioed wedi gwadu y Tad a'r Mab, fel y dywedir y gwnai anghrist. Yr un peth ellir ddywedyd am yr Iuddewon, na ddarfu iddynt erioed wadu y Tad mewn geiriau, eto dywedai ein Har- Hydref, 1879. u