Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN: CpIẅflTẃm CenẃIaetöuU Rhif. 4.] HYDREF, 1901. [Cyf. XIX. GWELLA GWALLAU: CAIS I SEPYDLU'E GYMBAEG. Gwych gennyf fi fod cynnífer o wŷr ieuaingc dyscediccaf Cymru er ys talm bellach yn ymroi i ddyscu iaith ac i ddarllen hên lyfrau eu gwlad, a bod nifer y ccegion sy'n meddwl y medrant lefaru a scrifennu yn eu hiaith eu hunain heb ymdrafferthu i'w hasfrudio, yn myned yn lleilai o flwyddyn i flwyddyn. Oni buasai am yr yspryd arall a gwell a ddaeth yn ddiweddar ar ein dyscawdwyr, cliau yr aethai Cymraeg y wasc a Chymraeg y pulpud cyn hir yn iaith farbaraidd, annheilwng o genedl ddiwylliedig. Pan elo iaith yn sâl, y mae hi yna yn barod i f arw; a phan elo hi yn rhy wael i fod yn addas i bob rhyw berwyl, gorau po cyntaf y bo hi farw. Yngenau y rhan fwyaf o bregethwyr ac yn llaw y rhan fwyaf o scrifenwyr y dyddiau hyn, y mae'r Gymraeg yn iaith dlawd iawn: yn brin ei geiriau ac yn aflêr ei brawddegau. Yn wir, ni chawsai dynion mor anhyddysc yn eu priod iaith ddim cyfie i addyscu eraill mewn un wlad arall ar y ddaear. Ond yn llaw gwŷr cyfarwydd, bu'r Gymraeg bob amser yn ddigonol i bob peth a'r a ofynnid ganddi. A drowyd y Bibl i ryw iaith yn well nag y'i trowyd i'n hiaith ni? A oedd yn Europ, yn yr Oesoedd Canol, rywrai yn medru chwedleua yn rhagorach na chwedleuwyr Cymru ? A scrifennodd un Sais neu un Ffrangc yn fwy hoew na Morus Kyffin a Theophilus Evans? yn fwy cryno nag Elis Wyn? yn fwy cyfareddol na Morgan Llwyd? ac yn fwy dichlyn na'r caplan brenhinol John Evans, A.M. ? A fynegodd rhyw emynydd wahanol deimladau 'r dŷn duwiol yn gystal a Williams—y Williams, sef Williams Fawr o Bant-y-celyn ? A welodd llygad, a glywodd clust, ac a ddychmygodd càlon dŷn, rywbeth na allai meistr o feddyliwr neu feistr o yscolhaig ei draethu a'i ddarlr.nio yn y Gymraeg yn llawn cystal ag mewn un iaith arall ? Dynion sy'n dlawd eu hunain sy'n cwyno fod y Gymraeg yn dlawd. Golud y Gymraeg, ac nid ei thlodi, a fydd yn gyrru penbleth ar y gŵr cyfarwydd. Nid gofyn, Pa air a gaf ? y bydd hwn, eithr, Pa air a ddewisaf o blith cynnifer o eiriau gogyfystyr? Ys gwir nad oes neb yn yr oes hon a fedr droi Gwladwriaeth Plato neu Fucheddau Plutarch i gystal Cymraeg ag y trowyd j Bibl iddo ; ond arnom ni, ac nid ar ein hiaith, y mae'r bai am hynny. Pe na buasai llenorion gwir yscolheigaidd o fath yr Escob Morgan, yr Escob Parry, yr Escob Richard Davies, a'r Dr. John Davies, wedi darfod o'r tir yn Oesoedd Tywyil yr Eglwys Sefỳdledig, ac yn ystod rhwysc Anghydffurfiaeth dra gweri'n- aidd, buasai'r Gymraeg erbyn hyn yn iaith grynhoach ac ystwythach nag ydoedd hi hyd yn oed yn amser y cedyrn hynny. Diau gan hynny y buasai gennym ddigon o wŷr a allasai ddiwygio Uawer ar gyfieithiad diwygiedig y Dr. Parry, heb fod neb yn ein plith yn ddigon anllythrennog i'w far- bareiddio yn ôl dull pob esponiwr diweddar, oddigerth y Parch. Puleston Jones.* Rhaid cofio mai cyfieithiad ydyw'r Bibl Cymraeg, er ei ragored; ac mai cyfieithiadau ydyw amryw o'r llyfrau Cymraeg gorau, a scrifennwyd mewn iaith rydd. Y mae ôl yr Hebraeg, y Roeg, y Lladin, y Ffrangeg Normannaidd, a'r Saesneg, ar bob pennod a'r sydd ynddynt; a dygwyd i mewn lawer o'r ffurfiau a'r troadau estronol hyn i bob gwaith gwreiddiol a wnaed ar eu hôl. Wrth gydffurfio'r Gymraeg â ieithoedd estronol, megis * Er fod iaith y gŵr dawnus hwn weithiau yn rhy werinaidd i fod yn urdd- asol, etto nid oes neb byw a chanddo wôll syniad nag efe am anian (genius) y ^ymraeg. " 'Does dirn dwywaith," chwedl yntau, aro hyn.