Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN EISTEDDFODOL, (ARGRAFFIAD ARBENIG O'R "GENINEN," AWST, 1901; YN CYNNWYS YN UNIG GYFANSODDIADAU BUDDUGOL MEWN EISTEDDFODAU, &c.) "A'R MOR NID OEDD MWYACH!" (Pryddest y Gadair yn y Cefn Mawr, 1895). Nl fu blodeuyn farw yn yr ardd I gyd erioed: mae ef yn fwy na'i ddail. Mae'r lliwgar ddail yn syrthio'n wyw i'r llawr; Ond p'le mae'r yspryd wenai'n goch a gwyn? Na, nis gall yspryd farw byth: mae Duw Yn ymgnawdoli 'mhob blodeuyn byw. Beth yw y greadigaeth swynol hon Ond corff i Yspryd Dwyfol? Beth yw bryn Ond bryn o feddwl? Beth yw cerdd y sêr Ond Duw yn " canu yn y nos " yn bêr— Y nos mae'r Yspryd Mawr yn cael ei Hun, Y nos y teithia tua'i Ddwyrain hardd, Y nos cyn trydydd dydd perffeithio Duw! Mae Duw'n pregethu ar y mynydd byth ; Ac 0, mae mwy o ddyfnder yn y nant Nâ'i gwaelod gro, i'r llygad hwnw wêl Yspryd Daioni, ýn ei fantell wen, Yn cerdded rhwng y bryniau ! Beth yw dyn? Mewn Nasaread, Duw yn gweld ei Hun, Ac yn ymgolli mewn Dwyfoldeb byth Yng nghwmwl du y groes, a chwmwl gwyn Y nef! A pheth yw ystyr dwfn y mor? Oes iddo ystyr mwy nâ'i ddyfnder mawr? Beth yw ond corff Dirgelwch oesol Duw— Ond awgrym gwan am gyfarfyddle dwfn Yr anirnadwy, mae'r afonydd oll Yn eario'u tywod aur i'w fynwes ef ! Nid yw y byd ond sefyll ar y traeth A ffurfiodd hwn yn làn trwy oesau lu; Ac nid yw'r Newton wedi gwthio i'r dwfn Ar ddiwedd einioes faith; er maint ei ddysg, Dai cragen mae i glywed swn y môr. II, Mae Duw'n llefaru trwy ddamhegion lu Wrth ddynol ryw erioed. 'Yw Solomon Yn brydferth yn ei fantell wen ar lawnt Ei Eden Newydd? Y mae un a wel Lygad i yspryd mawr Prydferthwch Duw Mewn lili sylla i fyny ato Ef. Ni wisgodd Solomon mewn gwyn erioed Ogoniant fel y lili, wena'n 11 on Wrth deimlo gwynder Duw yn gwynu ei dail! Beth ydyw Mab y Dyn ond dameg fawr, Os ystyr dameg ydyw Gwir y nef Yng ngwisg y ddaiar! Ynddo caiff y byd Wirionedd nef ysprydol wedi dod I gorff o fatçr, er i farwol ddyn Gael golwg glir ar Gynllun-Fywyd Duw. Gwyn fyd y rhai a'u hadnabuant Ef Wrth dorri'r bara, pan ddiflannai'r corff O'r golwg, pan arhosai'r Yspryd byth! Beth yw y môr, ond dammeg fawr, i'r neb Ganfydda sêr yn gwenu yn y dwfn, A llun y nef ar ddalen las pob tòn. Mae ll^'gad wel gyfnewidioldeb byd Ar gryehiog wyneb y cynhyrfus fôr; A dwfn ddirgelwch Duw yn ngwely perl Ei waelod ! Dyma'r llygad dreiddiodd trwy Hyd at yr Ysprydì wisgodd gorff mewn Môr! Nid ydyw y corff yn bod i hwn byth mwy ; Nid ydyw'r ddameg mwyach. Yspryd pur Edrycha'n llon i lygaid yspryd pur! Nid ydyw'r môr a'i ddyfroedd dyfnion mwy Ond gwisg yr yspryd sydd yn teimlo'i wisg Yn fychan, ac am ddod yn noeth fel nef Y nef, a'i myrdd ysprydoedd ! Nid yw'r môr Ond cragen iddo glywed swn y môr 0 feddwl sydd yn toni ynddo mwy! Y pur o galon a ganfyddai nef Yn mynwes lân Tiberias nos a diydd; Y tyner yspryd a gyffrowyd hyd Waelodion dyfna'i fod wrth deimlo pwys Unigedd llethol Iesu yn y byd, 'Rol gadael cartref cydymdeimlad fry, A mynwes Tad—yr yspryd cldaeth mor fyw