Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

14 Y GENINEN EISTEDDFODOL. Y LLOSGFYNYDD. (Abermaw, 1903). Garwaf lanerch, gwir aflonydd,—ydyw'r Berwedig Losgfynydd : Arswydol dân reda'n rhydd O'i fynwes yn afonydd. Llanuwchllyn. Marianog. Y GAMLAS. (Y Cefn Mawr, Llungwyn 1902). Y Gamlas hen sy'n ddolenau—o ddwfr : Ffordd yw, a'i Uif-ddorau Hagr, chwyrn, yn agor a chau At drafodaeth tir-fadau. GWERNOGLE. YR AWRLAIS. (Glyn Ceiriog, 1903). I'n hamserau mesurydd—hwylus iawn Yw'r Awrlais hoff beunydd : Eiliadau yr oesau rydd ; A'r haul yw ei reolydd. Llangollen. J. E. Jones. Y DAFARN. (Niwbwrch, 1802). 'Stor i Baal, ystryw y byd,—yw'r Dafarn, Er difa yr ynfyd ; A threigla hen iaith reglyd Llu anwn yn hwn o hyd. Bethel. Ioan Iorwerth. Y FFENESTR. (Trawsfynydd, Mehefin 25ain, 1904). Haelionus borth goleuni—iachusol, A chysur cartrefl, Yw'r Ffenestr hoff: o honi Golygfa lawn fwynhawn ni. Trawsfynydd. Glan Edog. HWRE. (Dolgellau, Gwyl Dewi, 1904). Hwre hoff, llawen air yw,—yn frodor Brwdfrydedd digyfryw : Mawl didwyll deimlad ydyw, Darana clod ar ein clyw. Dolgellau. Glan Wnion. BEDDARGRAFF MR. W. EDWARDS, TALYSARN. (Talysarn). Un geirwir sydd yma'n gorwedd,—gonest, Ac uniawn ei fuchedd : Coflwch na roes y ceufedd Ei eglur barch dan glo'r bedd. Trebor Cybi. Y NADOLIG. (Islaw'rdref, Nadolig 1885). Hon sydd wyl anwyl ini,—hen adeg Yr hynodol eni: Y Gair yn gnawd wnawd i ni, Yn Ion cadarn i'n codi. Islaw'r dref. J. Jones. (Talybont, Ceredigion, 1901). Gwyl hen iawn a'n geilw ni,—yn lluoedd Mwyn, llawen, i foli,— Hamdden i goflo'r geni— Mawr gariad a rhad ein Rhi. Abram Jones (Stywi). CADEIRIO ARWEINYDD COR. (Penparc, Aberteifl.—Byrfyfyr). I feirddion am farddoni—mae Cadair, Mae codiad a moli ; Ond y gân lân, eleni, A aiff a hon,—"oÿ'a hi." Cilie. Jeremiah Jones. IORWERTH Y SEITHFED. (Llandudno). Teyrn addas, tirion nodded,—i'n harwedd, Yw Iorwerth y Seithfed : Hir oes eirian i'w ran red,— Trwy ynysoedd teyrnased. Bangorfab. Y BARUG. (Cydfuddugol yn Salem, 1904). Ah ! oer iasau o'r rhew oesol—a bair Y Barug dinystriol: Yn ei anian wenwynol Fe lygra deg flagur dôl. Tal y Bont. W. Thomas Evans. Y MODUR. (Cyffylliog, 1904). Y Modur hunansymudol,—rhiniawl Beirianwaith rhyfeddol : Cerbydau'r wlad âd o'i ol Trwy ei dyniad trydanol. Gwilym Clwyd. (Llandebie, 1904). Odiaethol brysur deithydd—yw Modur, Gyda mudiad celfydd: I'w daith rhed yn ystwyth, rhydd, Trwy'n gwlad, dra enwog gludydd. Y Bettws. John Harrys. Y LLYTHYRGLUDYDD. (Caer Ludd). Mwynaf neu gasaf negesydd,—o bawb, Yw y Llythyrgludydd : Ar ei rawd cysur a rydd, Neu boen, i ddynion, beunydd. Abermaw. John Adams. Y FYNWENT. (Y Groes Wen.—Cydfuddugol). Llanerch lle trig unigedd,—â dwyster Distaw arni'n gorwedd,— Man i bawb gael hûn mewn bedd, Yw'r Fynwent, oeraf annedd. Gwilym Elian. Y WIWER. (Y Felingwm). Chwim Wiwer, felen, ysblenydd,—hi red Mewn rhwysg dros geinc coedydd : Aeron i'r un aflonydd, A chnau, yn foethau a fydd, Clynmelyn. Jeremy Jones. TANGNEFEDD. (Penderyn, 1903). Tinc y Nef yw Tangnefedd,—a gwylaidd Galon yw ei orsedd,— Anadl Ion yn odli hedd I'r enaid yn wir rinwedd. Ystradfellte. Llanorfab.