Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN: Cplrfrgraton Cíueìrlaet&ol Rhif. 4.] HYDREF, 1892. [Cyf. X. GWLADGAEWCH Y CYMEY. Gwladgabwch, yn ol Dr. Johnson, yw cariad un at ei wlad. Ond cynwys gwir wladgarwch nid yn unig gariad at y wlad, yn ddaearyddol, ond hefyd gariad at ei phobl, at ei miwsig, at ei llenyddiaeth, at ei harferion a'i thraddodiadau, at ei chrefydd, a'i chymdeithasiaeth, a'i dull cyffredin o fyw. Dyma deimlad sydd i'w gael yn mhlith " dynion o bob math a sefyllfa," yn mhob oes ac yn mhob gwlad. " Câs gŵr na charo y wlad a'i maco." Yr oedd yn ddywediad gan Plato, " Yr y'm wedi ein geni mewn rhan er mwyn ein gwlad, mewn rhan er mwyn ein cyfeillion, ac mewn rhan er mwyn ein rhieni." Bron na ddwyfolid Gwladgarwch. yn Nghroeg a Rhufain gynt; ac yn nesaf at gyfeillgarwch edrychid arno fel y teimlad mwyaf dyrchafedig a dyrchafol y gallai y natar ddynol ym- gyraedd ato. Tyner Gwladgarwch allan o chwedloniaeth, hanesiaeth a barddon- iaeth y cynoesoedd a gweler cyn lleied sydd yn aros ! Hynodid y llwythau Celtaidd bob amser am eu gwladgarwch angherddol. Y mae hyn i'w ganfod mewn modd arbenig yn hanes trigolion Cymru. Y maent wedi bod yn hynod bob amser am eu cariad at eu gwlad, eu hiaith, eu cenedl, eu sefydliadau, a'u hanesiaeth, yr hwn sydd yn cyrhaedd yn ol yn agos i ddwy fìl o flynyddoedd. Peraroglir eu Trioedd gan wladgarwch. Goddefer i mi roddi ychydig engreifftiau o'r hyn a gyfansoddai yr awyrgylch foesol yr oedd ein hynafiaid yn anadlu ac ynbyw ynddi ganrifoedd lawer yn ol. Llyma Drioedd yCymro:—"Tri pheth y dylai Cymro fod, fel na waradwyddo na'i hun na'i wlad na'i genedl—sef bod yn hael, bod yn ddewr, ac yn drugarog." " Tri pheth sydd glodfawr i Gymro eu diwylHo—sef ei dadtref, ei deulu, a'i farn." "Tri pheth y dylai Cymro eu caru o flaen dim—Cenedl y Cymry, defodau y Cymry, ac iaith y Cymry." " Tri pheth a ddylent fod bob amser ar gof pob Oymro—sef ei Dduw, eî ddyn, a'i ddyled." "Tri pheth a gadwant yr enw o Gymro rhag di- rywiaeth—sef cynal o Gymro hawl ac anrhydedd ei genedl, byw arno ei hun, a byw fel y dylai parth tuag at Dduw a dyn." " Tri gair y dylai pob Cymro eu hystyried yn llwyr, ac ymddarbod yn gyfìawn â'u pwyll a'u hystyr—sef Duw, dyn, a Chymro." " Tri pheth sydd o Genedl y Cymry yn oreuon o'u rhyw yn y byd—sef Barddas, rhaith, a cherdd-dant." " Tri pheth y dylai Cymro eu cadw a'u hamddiffyn hyd farw—sef ei gledd, ei gyfrin, a'i gyfaill." "Tri pheth y dylai Cymro farw o'u plaid—sef ei wlad, ei eir-da, a'r gwirionedd." Dengys y trioedd hyn y fath deimlad angherddol oedd gwladgarwch yn ein hynafiaid gynt, a'r fath argyhoeddiad cryf a feddent gyda golwg ar eu dyLedswydd tuag at eu cydgenedl, eu gwlad, eu cymydogion, y gwirionedd, a'u Duw. Anhawdd dychmygu am iachach sýniad; ac nid jwjnun rhyfeddod fod yr hen Gymry mor nodedig am eu hagwedd foesol uchel, eu cydymdeimlad cynes a chywir, eu dadblygiad o'r galluoedd corfîorol pa rai a ddynodem ni yn awr, fe ddichon, fel " ymarferiad gewynol," a'r cynheddfau hyny a barai i Milton son am danynt fel " Hen genedàfroenwhel, falch mewn rhyfel." Am arucheledd, y mwyaf nodedig, mi dybiaf, yw eu syniadau am elfenau uchaf gwirionedd moesol; er engraifft, eu syniad am Dduw, yn tarddu, fe Gwladgaiwch i bobl yn anadlu yn y fath awyrgylch, nid yn deimlad gwag yn unig, ond yn wir fywyd i fywyd y genedl. Oherwydd paham, y mae Gwladgar- wch, yn nesaf at Grefydd, «to, y gállu cryfaf yn mywyd a buchedd pobl Cymru