Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN Rhif. i.] - IONAWR, 1884. [Cyf. II. PAHAM YR WYF YN EGLWYSWR? Y mae pob dyn yn rhwymedig i fod " yn barod bob amser i atteb i bob un a ofyno iddo reswm am y gobaith sydd ynddo, g}rdag addfwynder ac ofn." Yr wyf yn awr, trwy amgylchiadau neillduol, yn cael íÿ ngorfodi i roddi atteb i'r gofyniad pwysig uchod, mewn ychydig amser, ac mewn byr eiriau. Cyn atteb y cwestiwn—" Paham yr wyf yn Eglwyswr ?" gofynaf i mi fy hunan gwestiwn arall—" Pa beth yw diben íy modolaeth ar j ddaear?" Dyma gwestiwn mawr yr enaid yn mhob oes. Gofynir ef mewn gwahanol ífurfiau, ond yr un ydyw 0 hyd—"Pwy a ddengys i ni ddaioni ?" " Pa le y ceir doethineb ?" "Pa beth sydd raùt i mi ei wneuthur fel y byddwjrf cadwedigp" Dyna rai o'r ffurfiau Ysgrythyrol ymha rai y gofynir y cwestiwn. Gofynwyd yr un cwestiwn gan athronwyr Groeg a Phufain, pan yr holent—" Pa le mae y ' Summum Bonum' "—" y daioni pennaf ?" Y mae holl arwyddoccâd y cwestiynau hyn yn gynnwysedig yn y cwestiwn hwn— " Paham yr wyf yn Eglwyswr ?" Yr ydwyf yn Eglwyswr oherwydd fy mod yn credu mai yn yr Eglwys y gallaf gjrflawni diben fy modolaeth, cael hyd i ddangos- iad daioni, sicrhau fy nghadwedigaeth, a mwynhau y t-ummum Bonum am ba un y chwiliai y gŵr ieuangc pan y dywedai—"Áthraw da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragywyddol ?" Datguddir i mi mai diben fy modolaeth jàyw adlewyrchu delw neu gymmeriad Duw yr hwn a'm creodd, gan ddywedyd—" Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain." Os na bydd delw Duw arnaf, y mae fy mywyd wedi ymlygru. Cyn y gallaf " ddiangc oddiwrth y llygredigaeth sydd yn y byd ti-wy drachwant," rhaid i mi fod yn gyfranog o'r " dduwiol anian." 0 ganlyniad, anghenrheidiol ydyw gofyn—"Pa gymmeriad sydd i Dduw? Pa fodd y darlunir Ei ddelw?" Y mae yr Apostol Ioan yn datguddio delw Duw mewn dau ymadrodd cynnwysfam- yn gi-yno —"Goleuni yw Duw." "Duw, cariad yw." Y màe yn amlwg, gan hyny, nad oes dim modd i ddyn ddadblygu ei wir fywyd heb gyfranogi o ysbryd cariad. " Os carwn ni ein gilydd, y mae Duw yn trigo ynom." Yn yr un egwyddor y mae athroarydd- ion Paganaidd, y dyddiau hyn, yn cael hyd i ddirgelwch dedwyddyd dyn. Athraw- iaeth ganolog Comte ydyw fod y dyn unigol yn cyrhaedd perffeithrwydd moesol trwy ddarostwng y nwydau a'r cymhelliadau hunanol i lywodraeth cydymdeimlad cymdeithasol. Yr un egwyddor a eilw Comte yn "gydymdeimlad cymdeithasol," a elwir gan yr Apostol Paul yn "gariad," ac am yr hon y dyweda—"C) flawnder y gyfraith yw cariad." Y mae yr athronydd, er heb adnabod Crist, yn )Tnddiried yn nghymmeriad Crist. Pe buasai yr Apostol yn ei gyfarfod ar un o heolydd Paris, dywedasai wrtho—"Yr hwn yr ydwyt ti heb ei adnabod yn ei addoli, hwnw yr wyf fi yn ei fynegi i ti." Gan mai dadblygiad cariad yn ei natur ydyw diben bodolaettí dyn ar y ddaear, y mae yn rhaid i ni ofyn ymha amgylchiadau y gellir ei ddadblygu yn fwyaf effeithiol; Eglur ydyw mai mewn cymdeithas y dadblygir cariad. Os bydd dyn yn treulio ei