Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN: Cplrfrgraton Cew&Iaetöol. Rhip4.] HYDREF, 1891. [Cyf. IX. "EHESYMAU DEOS DDADGYSYLLTIAD YNG NGHYMEU." i. Y mae un peth y gallaf gydsynio yn galonog iawn âg ef yn yr hyn a ddywed Deon Llanelwy yn ei ysgrif ar y testyn uchod yn y rhifyn o'r Geninen am Gorphenaf, sef, Fod Dadgysyllttad ar hyn o bryd yn bwngc y dydd yng Nghymru. Ydyw : ac nid oes dim dadl i fod rhyngom ar hyn. II. Baich ysgrif y Deon ydyw sylwi " ar rai o'r prif resymau a ddygir yn mlaen ger bron Y Saeson dros Ddadgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru." Oblegid, meddai, " Delir y fantol gan Eglwyswyr Rhyddfrydol yn Lloegr." Teifl yr ymadroddion byrion, ond gwirioneddol, hyn, ffrwd o oleuni ar yr holl achos sydd yn gwneuthur pob peth o'i amgylch mor oleu a'r dydd. Yn gyntaf oll, y maent yn addefiad clir, pe cawsai Cymru ei hunan ei ffordd, y buasai wedi gwneuthur byr waith ar yr Eglwys yng Nghymru. Pe gwrandewid ar lais Oymru caem Ddadgysylltiad yfory nesaf. Ond cyn y caiff Cymru, druan, yr hyn y mae yn galw am dano, rhaid yn gyntaf oll argyhoeddi y Saeson. Felly, yn ol addefiad y Deon ei hun, y Saeson sydd yn gyfrifol am barhau Eglwys Loegr yn faich annioddefol ar ysgwyddau y Cymry. Y mae Cymru wedi bod am flynyddoedd yn galw yn uchel am i'r urddasolion Eglwysig yng Nghymru fod yn Gymry ; ac o'r diwedd, trwy hir waeddi, y mae wedi eu cael. Yn ad- daliad am hyny y mae yn awr yn gorfod talu yn ddrud i'r rhai hyn am wneyd eu goreu yn mhob modd, ac yn llawer mwy effeithiol nag y gallai yr urddasolion estronol ei wneuthur, i'w rhwystro i gael yr hyn y mae yn galw am dano. Ac nid yw hyny yn ddigon ganddynt, rhaid iddynt gaél galw i mewn y Saeson i'w cynorthwyo. Sonir weithiau am yr anfadwaith o osod dosparth yn erbyn dosparth, a chenedl yn erbyn cenedl. Dyma ymgais i wneuthur hyny i bwrpas. Beth all wneuthur urddasolion Eglwysig yn fwy atgas yn ngolwg Cymru na'u bod, ar ol unwaith gael dyfod i mewn, yn ymladd â'u holl egni, heb betruso nemawr pa arfau a ddefnyddir ganddynt, yn erbyn yr hyn y mae mwyafrif mawr y Cymry yn galw am dano ? A pha beth a all wneuthur cenedl fawr a dylanwadol y Saeson yn ffìeiddiach yn ein golwg na'r syniad mai hwynt-hwy sydd yn gyfrifol am barhau yr Eglwys Wladol yn ormes ar ein hysgwyddau ? Rhydd hyn gyfrif hefyd i ryw raddau am y moddion a ddefnyddir gan urddas- olion Eglwysig i gario yr ymgyrch yn erbyn eu cydwladwyr yn mlaen. Yn gymaint ag mai Eglwyswyr Bbyddfrj^dol Lloegr sydd yn dal y fantol, y pwngc mawr ydyw dylanwadu arnynt hwy. Cyfeiria yr urddasolion Cymreig—y rhai ni chawsent na sylw na gwrandawiad oni bai fod eu gwlad wedi gosod yr urddag hwn arnynt—gan hyny, eu hapeliadau yn erbyn eu cydwladwyr, at y Saeson. Dyma eu hanes, o frad y Cyllill Hirion a'r Llyfrau Gleision hyd yn awr. Dyma ydyw yr eglurhad ar waith Esgob crwydrol Llanelwy, gyda'i ystadegau gau, yn myned o amgylch ar hyd Loegr i'n camddarlunio ; a phan wesgir ar ei wynt fel na ŵyr, fel dyn anrhydeddus, pa le i droi, y mae y Deon yn garedig iawn yn barod i dderbyn y sàethau, ac i ddodi ei hunan yn aberth yn ei le. Dyna yr eglurhad hefyd sydd i'w roddi ar y defnydd mawr a chyson a wneiç