Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN: Cplrögraton CenefclaetfcoU Rhip. 1.] IONAWR, 1890. [Cyf. VIII. GOMER AP IAPHETH. " F' Arglwyddes Clara Vere de Vere, O'r nefoedd fry, cred fì, fe wên Hen arddwr Eden gynt, a'i wraig, Pan glywant honni llinach hên."—Tennyson—(cyf.). Fe allai fod hannu o deulu da yn bwysiccach peth nag y mae pawb yn barod i'w gydnabod yn yr oes werinol hon. Éithr rnewn gweittìred cydnebydd pawb ei bwysigrwy'dd. Pettae yn eich bryd gyflogi bachgen i swydd o ymddiried danoch, oni hoíectì yn gyntaf, "A yw ei dad a'i fam yn ddynion gonest, cywir?" Y mae celwydd a lladrad yn rtìedeg mewn teulu, a 'ffalsder, geirwiredd a phob rhinwedd a choll araíl. Y mae'r gair hwnnw'n para'n wir am y Creawdwr, ei fod " yn ymweled âg anwiredd y tadau ar y plant." Cryn beth yw bod o deulu da. Fe allai na buasai neb wedi ammeu peth mor amlwg a hyn, oni bae fod "teulu da" wedi colli ei wir ystyr, a mynd yn enw ar y teuluoed'd hynny'n unig sydd yn gwybod enwau eu cyndeidiau. Mwy o hawl a fuasai gan lawer o'r teuluoedd ymma i'r teitl o " deuluoedd da " ped anghofiasid yr enwau hynny; ac am y rhan fwyaf o'r lleill, harddach ynddynt hwy fyddai yindrechu byw yn deilwng o'u hynafìaid dewr cjm yinffrostio ynddynt. Wedi bod yn deuluoedd da y maent; ond yn awr aeth cadernid a dewrder eu tadau yn foethau a gwag ogoniant, ac wèle'r teuluoedd yn diflannu o un i un. " Cyflog pechod yw marwolaeth." "Nid bonheddig ond y da," medd Tennyson—" 'Tis only'noble to be good;" ac nid oes neb yn barottach na ni'r Cymry i waeddi " Amen ;" na neb anaws eu twyllo am werth dyn gan ddwndwr y'nghylch achau. Medlyliwch am ddyn yn gwneud bròl fawr ei fod ef yn hannu o ryw f od y sonid am dano mewn hen lyfr; ond yn cydnabod na wyddai ef ddim rhagor am y bod ond ei enw ac enw'i blant, nac yn wir drwy ba un o'i blant yr hanfu ei deulu ef, na hanes nac enwyr un o'i hynafiaid rhwng y bod a'i daid. Yn wir, erbyn holi, nid oedd ganddo reswm o gwbl dros ddadleu'r berthynas ond fod ei enw ef ac enw'r bod yn digwydd cynganeddu. Beth ddywe'dem ni am ddyn felly ? Ac etto dyna'r hyn a wnawn nì beunydd fel cenedl. Ië, yr ydym ni yn waeth, yr ydym am lurgunio'n henw ac enw'n hiaith er mwyn iddynt gynganeddu'n berffeithiach ag enw'r bod. Ni sonir fawr am " Gyinraeg " ar Ìwyfan yr Eisteddfod: aeth yr hen enw yn " Omeraeg." Dymma i chwi'r fost yng ngeiriau awdwr Drych y Prif Oesoedd. Ar ol cymyssgu'r ieithoedd yn Nhŵr Babel, meddefe, " pwy oedd yn siarad Cymraeg a dybiwch chwi, y pryd hwnnw, ond Comer, mab tìynaf íapheth, ab Noa, ab Lamech, ab Methusela, ab Enoch, ab Iared, ab Malaleel, ab Cainan, ab Enos, ab Seth, ab Adda, ab Duw. Djona i chwi waedoliaeth ac ach yr hen Gî-ymry, cuwch a'r a all un bonedd daearol fyth bosibl i gyrraedd atto, pe baem ni eu heppil yn well o hynny. Ac y'mae yn ddilys ddiammeu gennyf nad yw hyn ond y gwir pìir loew; canys 1. Y mae hanesion yr hen oesoedd yn mynegi hynny; a pha awdurdod chwaneg am unrhyw beth a ddigwyddodd yn y dyddiau gynt na bod coflyfrau neu groniclau yr oesoedd yn tystio hynny! 2. Ÿ inae holí ddysgedigion Cred (gan mwj'af, yn awr) megis o un genau yn maentumio hyiiny. 3. Y mae yr enw y gelwir ni yn gyffredin arno, sef yw hynny, Cymro, megis lifrai yn dangos i bwy y perthyn gwas, yn ysbysu yn eglur o ba le y daethom allan; "canys nid oes ond y dim lleiaf rhwng Cymro a